Skip to Main Content

Tystysgrif Cyn-prynu

Mae’r Dystysgrif cyn-prynu yn wasanaeth dewisol a gynigir gan Gyngor Sir Fynwy a anelwyd at bobl sy’n edrych ar brynu eiddo yn Sir Fynwy. Byddai’r cais yn rhoi:

  • Chwiliad hanes cynllunio
  • Manylion caniatâd cynllunio/caniatâd adeilad rhestredig
  • Hanes gorfodaeth yn ymwneud â thoriadau rheolau cynllunio a ddynodwyd (ni fyddai hyn yn ymwneud â chwynion na chafodd eu cadarnhau)

Byddai’r gwasanaeth hwn yn cynnwys ymweliad safle ac yn dynodi os oes unrhyw doriadau o reoli cynllunio a ph’un ai a fyddai’n hwylus gorfodi unrhyw doriadau.

Byddai’r dystysgrif yn hysbysu y cafodd unrhyw ddatblygu cymeradwyo yn y safle, hyd at adeg y cais, eu cyflawni yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd ac na chafodd unrbhyw reolau adeiladu eu torri ar y safle.

Bydd hyn yn rhoi’r hyder rydych ei angen i sicrhau fod yr eiddo yr ydych yn ei brynu wedi cydymffurfio gyda phob agwedd berthnasol o reoli cynllunio.

Y ffi ar gyfer y gwasanaeth hwn yw £600 a byddwn yn anelu rhoi ymateb ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod.

(Mae’r gwasanaeth hwn yn edrych ar gydymffurfiaeth gyda phob math o ganiatâd cynllunio yn cynnwys caniatâd adeilad rhestredig. Nid yw’n cymryd lle Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon.

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth?

Os dymunwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn llenwch y ffurflen gais Ffurflen Gais Tystysgrif Cyn Prynu.

Unwaith y cafwyd eich cais a’ch taliad, caiff ei gofnodi a chyhoeddir llythyr cydnabod gyda’r cyfeirnod. Bydd eich swyddog achos wedyn yn cysylltu â chi i drafod ymweliad.

Tystysgrifau Cwblhau

Mae Tystysgrif Cwblhau yn wasanaeth dewisol a gynigir gan Gyngor Sir Fynwy. Bydd y dystysgrif yn dweud:

  • Os y cafodd y Caniatâd Cynllunio a/neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig y gwnaed cais amdano ei gynnal yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd
  • Bydd yn cadarnhau statws pob amod ac unrhyw ddiwygiadau a gymeradwywyd os yn berthnasol
  • Bydd yn cadarnhau a yw’r holl rwymedigaethau Adran 106 wedi cael eu rhyddhau/eu bodloni

Diben y gwasanaeth yw cynnig cymorth i ymgeiswyr, asiantau neu unrhyw un arall sydd â diddordeb bod y gwaith yn briodol ac yn dderbyniol unwaith y cawsant eu hadeiladu. Os oes problem diffyg cydymffurfiaeth, dygir hyn i sylw’r ymgeisydd a rhoddir cyfle i unioni toriad rheoli adeiladu.

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys arolwg safle ac ymchwil desg.

Y ffi am y gwasanaeth hwn yw £495 am bob rhif cais sydd angen rhyddhau tystysgrif amod neu £650 am dystysgrif Adran 106 a byddwn yn anelu at ddarparu ymateb ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod

NODYN: Lle mae angen cais adeilad rhestredig a chais cynllunio ar gyfer yr un datblygiad, caiff hyn ei drin fel un cais.

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth?

Os dymunwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, llenwch Ffurflen Gais Tystysgrif Cwblhau os gwelwch yn dda.

Unwaith  derbyniwyd eich cais a’r taliad, caiff ei gofnodi ac anfonir llythyr cydnabyddiaeth gyda’r cyfeirnod. Bydd eich swyddog achos mewn cysylltiad i drefnu ymweliad safle.