Skip to Main Content

Pan dderbynnir cais cynllunio a’i bod wedi cael ei adolygu gan Swyddog Cynllunio am gyflawnder, yna caiff ei “Gofrestru”. Cyhoeddir rhestr o geisiadau newydd bob wythnos ac mae ar gael isod:

Ceisiadau sy’n cael eu hystyried

Mae hysbysiadau penderfynu fel arfer yn cael eu cyhoeddi o fewn 3 niwrnod gwaith o wneud y penderfyniad. Pan wrthodir cais, fe roddir rhesymau pendant pam nad yw’n dderbyniol. Fe dalir y ffi ymgeisio i brosesu’r cais a ni chaiff ei ad-dalu os caiff y cais ei wrthod. Bydd y Cyngor yn hapus i drafod unrhyw newidiadau a allai arwain at benderfyniad ffafriol ar gais diwygiedig. Mae’r hysbysiad penderfynu’n rhoi cyngor ar sut i apelio. Dim ond yr ymgeisydd sydd â’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu amodau a osodwyd.

Unwaith bod penderfyniad wedi cael ei gyhoeddi i’r ymgeisydd, bydd yr hysbysiad penderfynu yn cael ei bostio ar ein gwefan. Mae rhestr o’r penderfyniadau a wnaethpwyd yn cael ei chyhoeddi bob wythnos ac ar gael isod:

Ceisiadau cynllunio wedi’u penderfynu

Ar gyfer unrhyw restrau blaenorol, cysylltwch â’r adran gynllunio.

Gallwch weld ceisiadau cyfredol ac wedi penderfynu ar-lein