Skip to Main Content

Mwynhewch haf llawn hwyl o weithgareddau yng Ngŵyl Ffitrwydd Hamdden Mynwy. Gydag amrywiaeth o weithgareddau yn ein canolfannau bob wythnos drwy gydol yr haf, mae rhywbeth i bawb. Edrychwch ar y tabl islaw am ddetholiad o weithgareddau a dilynwch ein canolfannau ar gyfryngau cymdeithasol i’n cadw’n gyfredol gyda’r newyddion diweddaraf.

I’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr haf, rydym yn cynnig aelodaeth ffitrwydd 6 wythnos am ddim ond £45! Mae’r cynnig hwn ar gael i’w brynu rhwng 24 Gorffennaf a 23 Awst 2019 ac mae telerau ac amodau. Cysylltwch â’ch canolfan leol drwy’r dolenni islaw i flaen-gofrestru eich diddordeb ac archebu eich sesiwn gyflwyno aelodaeth ffitrwydd heddiw.

Os hoffech roi cynnig ar y gampfa cyn ymrwymo, gallwch hefyd fanteisio o docyn 7 diwrnod am ddim i’r gampfa. Y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw anfon ymholiad drwy un o’r dolenni islaw neu alw/ymweld â’ch canolfan leol i siarad gydag aelod o staff.

Ffurflen ymholiad ar-lein y Fenni Ffoniwch: 01873 735360
Llinell ymholiad ar-lein Cil-y-coed Ffoniwch: 01291 426850
Ffurflen ymholiad ar-lein Cas-gwent Ffoniwch: 01291 635745
Ffurflen ymholiad ar-lein Trefynwy  Ffoniwch: 01600 775135

Mae’r canolfannau hamdden ar agor rhwng 6.30am a 10.00pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng 8.00am a 6.30pm ar ddydd Sadwrn a rhwng 8.15am a 6.30pm ar ddydd Sul (gall oriau agor gwyliau amrywio).

I gael manylion pellach a phrisiau Gemau Sir Fynwy, cliciwch yma.

Mae #GwylFfitrwyddMynwy yn ysgubo Sir Fynwy yr haf hwn. Edrychwch ar raglen ein Gŵyl Ffitrwydd. Cadwch olwg ar ein gweithgareddau a chynigion arbennig ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio /GwylFfitrwyddMynwy