
Peiriannydd Goleuadau Stryd
Cefnogi a gweithio ochr yn ochr â Rheolwr Goleuadau Stryd CSF, sy’n gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw goleuadau stryd, teledu cylch cyfyng, signalau traffig parhaol ac arwyddion sy’n cael eu hysgogi gan gerbydau. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo gyda goruchwylio gweithrediadau cynnal a chadw goleuadau stryd o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion trigolion Sir Fynwy.
Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys defnyddio unrhyw systemau monitro goleuadau stryd a reolir gan gyfrifiadur CSF. Rhan allweddol o’r rôl fydd monitro data perfformiad contractau goleuadau stryd a fydd yn ysgogi gwelliant parhaus gwasanaethau golau stryd i’n trigolion. Bydd gallu ymdrin yn barchus ac yn effeithlon â chwynion preswylwyr yn rhan sylweddol o ofynion y swydd.
Yn bwysicach na chymwysterau ffurfiol, dylai ymgeiswyr allu dangos cefndir trydanol yn y diwydiant adeiladu.
Bydd gofyn i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol a gallu defnyddio systemau cyfrifiadurol i gadw cofnodion, a monitro perfformiad ein darparwyr gwasanaeth.
Cyfeirnod Swydd: ROHO17
Gradd: BAND H SCP £31,895 – SCP £35,336
Oriau: 37 Yr Wythnos
Lleoliad: New Inn, Pont-y-pŵl
Dyddiad Cau: 16/06/2022 12:00 pm