Skip to Main Content

Mae sefydlu patrymau presenoldeb da o oedran cynnar yn gallu helpu plentyn yn hwyrach mewn bywyd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant sy’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn cael gwell canlyniadau yn eu harholiadau TGAU na’r sawl gyda phresenoldeb gwael. Ar ben colli gwaith academaidd, bydd plant hefyd yn colli allan ar ochr gymdeithasol bywyd ysgol. Mae hyn, yn arbennig yn ystod blynyddoedd cyntaf addysg, yn gallu cael effaith ar allu plant i wneud a chynnal cyfeillgarwch gydag eraill.

Mae cyrraedd yn yr ysgol yn brydlon yn hanfodol. Mae cyrraedd yn hwyr yn gallu bod yn drwblus i’ch plentyn, yr athro/athrawes a phlant arall yn y dosbarth. Mae cyrraedd ar ôl i’r gofrestr gau yn golygu y bydd absenoldeb anawdurdodedig yn cael ei gofnodi ar gyfer y sesiwn hwnnw.

Bydd cyflogwyr eisiau rhywun dibynadwy; mae cael cofnod presenoldeb da a phrydlon yn dangos dibynadwyedd a gall arwain at gael gwell swydd yn y dyfodol.

Os nad yw patrymau presenoldeb rheolaidd yn cael eu sefydlu, mae ymchwil wedi dynodi bod rhai pobl ifanc sy’n colli ysgol yn rheolaidd am ddim rheswm yn gallu cael eu tynnu i mewn i ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu.

Os ydych yn cael trafferth yn cael eich plentyn i’r ysgol, cysylltwch â Phennaeth neu Bennaeth Blwyddyn ysgol eich plentyn fel cam cyntaf. Gallai fod bod angen i’r ysgol eich cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg er mwyn gweld pa gymorth gallant ei gynnig i chi.