Skip to Main Content

Mae safon eich eiddo yn bwysig iawn i ni. Mae’n rhaid i unrhyw eiddo a osodwn gyflawni ein safonau gofynnol. Mae hyn yn cynnwys:

Mae’n rhaid i bob eiddo fod yn lân, taclus a chael eu cynnal a’u cadw’n dda

Rhydd o beryglon Categori 1 (Graddiad Iechyd a Diogelwch Tai)

Mae’n rhaid i bob eiddo fod â larwm mwg sy’n gweithio sy’n cyflawni rheoliadau tân a diogelwch perthnasol.

Dylai pob elfen strwythurol yr eiddo (fel cafnau dŵr ac ati, drysau, ffenestri ac yn y blaen) weithio fel y dylent a bod mewn cyflwr da.

Mae’n rhaid darparu tystysgrifau diogelwch nwy a thrydan fel sydd angen.

Mae ein holl eiddo ar gael i’w weld yma.

Rydym yn archwilio pob eiddo a ddefnyddiwn. Gallwn helpu os nad yw’ch eiddo yn cyrraedd ein safonau gofynnol. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatrys unrhyw broblemau posibl ac efallai y gallwn hwyluso mynediad i Fenthyciad Gwella Cartrefi gan y Cyngor. Holwch am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Faint o rent y gallaf ei gael?

Bydd y tîm yn hapus i drafod gyda chi faint o rent y gallwn ei dalu ynghyd ag unrhyw wasanaethau eraill y gallwch fod â diddordeb ynddynt. Ffoniwch  📞01600775120 os gwelwch yn dda.

Pa gymhellion arian ydych chi’n eu cynnig?

Mae ein cymhellion arian yn amrywio yn dibynnu ar faint a chyflwr yr eiddo, yn ogystal â maint ac anghenion yr aelwyd sy’n symud i mewn. Cysylltwch â ni i ganfod beth allwn ei gynnig i’ch eiddo.

A oes unrhyw gyllid ar gael?

Mae gennym Fenthyciad Gwella Cartrefi a Benthyciad Cartrefi Gwag ar gael ar hyn o bryd. Gallwn gynnig ffi arbennig ar gyfer Benthyciad Gwella Cartrefi ar gyfer landlordiaid sy’n cytuno gweithio gyda’r Cyngor.

Gallwn fod â grantiau effeithiolrwydd ynni ar gael o bryd i’w gilydd, yn amodol ar argaeledd. Cysylltwch â ni ar 📞01600775120 i holi os yw hyn ar gael.

Archwilio Eiddo a Pharatoi Stocres

Gallwn gynnal archwiliad llawn ar eiddo a pharatoi stocresi ysgrifenedig a ffotograffig ar eich rhan ar gyflwr eich eiddo.

Ein Cynllun Achredu Tenantiaid

Gweithredwn gynllun Achredu Tenantiaid sy’n anelu i gyfateb neu gysylltu darpar denantiaid gyda landlordiaid. Mae’r cynllun yn anelu rhoi lefel o sicrwydd i landlordiaid am ddarpar denantiaid. Rydym yn cynnal rhestr o ddarpar denantiaid a gafodd eu hasesu a’u gwirio. Cynhaliwn y gwiriadau dilynol:

Tystlythyrau

Cyfrifon banc

Graddiad credyd

Gwiriad fforddiadwyedd

Ein tenantiaid

Caiff ein holl ddarpar denantiaid eu hasesu a’u gwirio cyn y trefnwn iddynt weld eich eiddo. Cewch eich gwahodd i gwrdd â’r tenantiaid ar y cam gweld eiddo a gallwch ofyn am i nifer o denantiaid weld yr eiddo fel y gallwch benderfynu pwy sy’n rhentu eich eiddo. Rydym yn hapus i fod yn bresennol pan mae darpar denantiaid yn gweld eiddo os byddech yn dymuno hynny.

Paratoi cytundebau tenantiaeth a rheoli

Os ydych angen cymorth gallwn baratoi’r holl waith papur cysylltiedig â thenantiaeth a’i lofnodi gan bob parti. Bydd hyn yn cynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen i sicrhau y caiff eich rhent ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc.

Ariennir Cynllun Prydlesu Cymru

Ariennir Cynllun Prydlesu Cymru (CPC) gan Lywodraeth Cymru ac fe’i rheolir gan Gyngor Sir Fynwy (Gwasanaeth Gosod Eiddo Sir Fynwy). Mae’r cynllun prydlesu yn gyfle ychwanegol i landlordiaid brydlesu eu heiddo i’r awdurdod lleol gyda swm rhent misol gwarantedig a rheolaeth eiddo am gyfnod rhwng pum ac ugain mlynedd. Gweithio gyda landlordiaid preifat a pherchnogion eiddo i ddarparu cartrefi o ansawdd dda yn Sir Fynwy.

Sut mae’n gweithio

Mae Cynllun Prydlesu Cymru yn cynnig –

• Prydlesau rhwng 5-20 mlynedd
• Gwarant o daliadau rhent ar gyfer hyd y brydles ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol berthnasol
• Lle bo angen, cynnig o hyd at £5000, fel grant, i ddod ag eiddo hyd at safon y cytunwyd arni a/neu i gynyddu’r sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag
• Atgyweirio unrhyw ddifrod i’r eiddo a wnaed gan denantiaid dan sylw, yn amodol ar draul resymol, ac atebolrwydd y landlord am ddiffygion strwythurol. Byddai hyn yn ffurfio amod o’r brydles
• Gwarant o gefnogaeth briodol i denantiaid, drwy gydol oes y brydles.

Beth all y tîm ei wneud i chi?

Gyda’r Cynllun Prydlesu Cymru (CPC) ac yn unol â Gwasanaeth Gosod Eiddo Sir Fynwy gallwn gynnig gwasanaeth rheoli eiddo a deiliad cyswllt o ansawdd uchel i chi. Fel ein partner busnes yn y cynllun prydlesu gall Gwasanaeth Gosod Eiddo Sir Fynwy hefyd gynnig i chi:

• Rhent gwarantedig hyd yn oed os nad yw’r eiddo’n wag (yn ystod cyfnodau gwag)
• Rhestr eiddo ysgrifenedig lawn a ffotograffau wedi’u tynnu o’r eiddo cyn ei feddiannu
• Archwiliadau rheolaidd o’r eiddo gan ein tîm tai lleol
• Gwarantu dychwelyd yr eiddo yn ei gyflwr gwreiddiol (gan ystyried rhywfaint o golled oherwydd traul)
• Gwarant o feddiant gwag ar ddiwedd y brydles

Beth sydd angen i landlordiaid ei wneud i ymuno â Chynllun Prydlesu Cymru

I brydlesu eich eiddo ar ‘Gynllun Prydlesu Cymru’ bydd angen i chi sicrhau y gallwch:

• Ddarparu Tystysgrifau Diogelwch Nwy, Diogelwch Trydanol a Pherfformiad Ynni
• Ddarparu Yswiriant Adeiladau (gan gynnwys Atebolrwydd Cyhoeddus)
• Lle bo hynny’n berthnasol, rhoi caniatâd ysgrifenedig h.y. llythyr/e-bost, yn cadarnhau bod eich benthycwr yn cytuno i chi brydlesu’r eiddo trwy’r Cynllun
• Fodloni gofynion gorfodol o safon eiddo a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (mae grant ar gael i ddod ag eiddo i’r safon y cytunwyd arni)
• Ddarparu copi o Gofrestrfa Tir i gadarnhau perchnogaeth eiddo

• Byddwch yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’r eiddo ac unrhyw waith allanol i’r eiddo.

Cynllun prydlesu Cymru – taflen