Skip to Main Content

Pam ein dewis ni?

Deallwn y gall gosod eich eiddo fod yn fusnes cymhleth mewn marchnad sy’n newid yn barhaus. Gall newidiadau yn y gofynion cyfreithiol ar gyfer landlordiaid ac amrywiadau yn y farchnad rhent fod yn faich i landlordiaid. Cynlluniwyd ein gwasanaethau i gyfateb ag anghenion landlordiaid yn dibynnu ar faint o ran y dymunwch, neu y gallwch, ei gymryd wrth reoli eich eiddo.

Drwy fod yn rhan o’r Cyngor, mae gan staff y fantais unigryw o fod â chysylltiadau agos gyda thimau mewnol a hefyd sefydliadau allanol fel Budd-dal Tai, Cefnogi Tenantiaethau a Chynllun Bond Seren i helpu ateb ymholiadau neu ddatrys problemau yn brydlon ac yn broffesiynol. Mae gennym hefyd wybodaeth fanwl o’r farchnad tai leol.

Mae ein gwasanaeth cefnogi tenantiaeth yn cefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau. Rydym yn rhoi cyngor a chymorth i landlordiaid a thenantiaid, yn delio gyda phroblemau ac ymholiadau.

Mae ein cynnig yn gystadleuol iawn gan nad ydym, yn wahanol i asiantaethau gosod stryd fawr, yn codi ffioedd ar ein gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae cwmpas ein gwasanaethau yn ehangach na gosodiadau stryd fawr yn ogystal â bod y gwasanaeth yn rhad ac am ddim ar hyno bryd.