Skip to Main Content

Cafodd Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy ei gynllunio’n arbennig ar gyfer landlordiaid preifat. Mae’n ddull gweithio amgen ac arloesol i weithio gyda landlordiaid preifat drwy dîm Opsiynau Tai y Cyngor.

Buom yn creu, cefnogi a chynnal tenantiaethau yn y sector preifat am dros ddeng mlynedd. Mae gan ein tîm o swyddogion tai proffesiynol brofiad helaeth o greu tenantiaethau, rheoli eiddo, cynghori landlordiaid a chysylltu gyda thenantiaid. Mae gennym wybodaeth fanwl o’r farchnad tai leol y gallwn ei rhannu i helpu gwneud penderfyniadau am fuddsoddi.

Mae tai sector preifat yn Sir Fynwy yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Mae’r Cyngor eisiau i dai preifat fod o ansawdd da, yn rhwydd cael mynediad iddynt ac ar gael yn eang. Yn fyr, mae’r Cyngor eisiau i dai sector preifat fod yn ddaliadaeth hyfyw ac yn opsiwn deniadol i bawb.

Cwrdd â’r Tîm

Croeso i’r Tîm

Negodydd Gwasanaethau Gosod Sir Fynwy

Clare Hamer

01873 735426

Hoffem groesawu Clare Hamer i Wasanaeth Gosod Sir Fynwy. Bu Clare yn gweithio yn yr Adran Tai ers 2014 a bu’n rhan ganolog o’r tîm, ac mae ganddi lawer o wybodaeth a phrofiad o bob rhan o’r adran, yn arbennig farchnata a hyrwyddo a defnyddio technoleg ddigidol a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Rôl Clare, fel ein Negodydd Gwasanaethau Gosod, fydd cysylltu gyda landlordiaid preifat newydd a phresennol ledled Sir Fynwy a hyrwyddo ein gwasanaeth yn Sir Fynwy.

Fel landlord preifat, os oes gennych eiddo y dymunwch ei rentu yn Sir Fynwy, cysylltwch os gwelwch yn dda â Clare Hamer ar 01873 735426 lle gall eich cynghori ar nodweddion a manteision dod at Wasanaeth Gosodiadau Sir Fynwy ar gyfer eich anghenion rheoli eiddo.

Housing Request a call back
First