
Hyfforddwr Dosbarth Ffitrwydd
A oes profiad gennych yn y Diwydiant Ffitrwydd a sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn medru darparu safon uchel o wasanaeth cwsmer? Rydym yn chwilio am Hyfforddwr Dosbarth Ffitrwydd angerddol a phenderfynol sydd wedi ymrwymo i wella cyfranogiad mewn gweithgareddau ffitrwydd a hybu iechyd a lles yn Group Fit Studios yng Nghas-gwent.
Cyfeirnod Swydd: LCHC110
Gradd: Band E SCP 14 – 18 £25,409 - £27,344 (gan gynnwys taliad ychwanegol sy’n adlewyrchu’r farchnad, yn amodol ar adolygiad blynyddol).
Oriau: Hyblyg gyda rotas wedi eu cytuno (efallai y bydd hyn yn newid yn unol gyda gofynion y Gwasanaeth)
Lleoliad: Canolfannau Hamdden Cas-gwent (neu leoliad arall yn unol gyda gofynion y gwasanaeth). Os oes angen newid lleoliad y gwasanaeth, ni fydd treuliau adleoli yn cael eu talu os yw hyn yn digwydd.
Dyddiad Cau: 15/12/2022 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd