Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno gwasanaeth

Gofyn a Chasglu newydd ar gyfer llyfrau llyfrgell

mewn ymateb i gyfyngiadau a achoswyd gan y

pandemig coronafeirws

_____________________________________

Bydd casgliadau i gael i ddechrau o Hybiau

Cymunedol Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent,

Gilwern,Trefynwy a Brynbuga.

Pedwar cam syml er mwyn cael mynediad at wasanaeth Llyfrgell:


1 Bydd y ffurflen yn gofyn i chi beth yw eich hoff genres, ynghyd â blwch sylwadau i chi wneud cais am unrhyw lyfrau neu awduron penodol. Bydd hyn yn ein helpu i ddewis y llyfrau gorau ar eich cyfer. (Gofynnir i chi nodi na allwn warantu y bydd unrhyw lyfrau penodol ar gael). Rydym wedi cynyddu ein terfyn benthyca llyfrau ‘Ceisio a Chasglu’ – os ydych yn archebu drosoch eich hun, neu eich hun ac un arall, byddwn nawr yn dewis hyd at saith llyfr i chi. Fodd bynnag, os ydych yn archebu ar gyfer mwy na dau berson, bydd pob person yn derbyn hyd at bum llyfr yr un (ar gyfer hyd at bedwar o bobl).


2 Dewiswch o ba safle yr hoffech gasglu ohono. Mae’r oriau agor fel sy’n dilyn:

Y Fenni : Dydd Mawrth a Dydd Iau – 10am – 4pm.

Cas-gwent : Dydd Llyn a Dydd Mawrth – 10am – 4pm.

Trefynwy : Dydd Mawrth- 11:30am – 6:30pm. Dydd Gwener – 10am – 4pm. Dydd Sadwrn, 9am-1pm.

Cil-y-Coed: Dydd Mercher a
Dydd Iau and Dydd Gwener 9-10am & 3-4pm.

Brynbuga: Dydd Mercher, 10am-4pm.
Dydd Sadwrn, 9:30am-12:30pm

Gilwern: Dydd Llun, 10am-12:30pm


3 Trefnwch slot amser gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein neu ein ffonio ar 01633 644 644


4 Casglwch eich llyfrau yn ystod yr amser sydd wedi ei drefnu a mwynhewch!