Skip to Main Content

Darllen yn Well yng Nghymru

Mae Darllen yn Well yn eich helpu i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch lles gan ddefnyddio deunydd darllen defnyddiol.

Caiff yr holl lyfrau eu dewis a’u hargymell gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r amodau dan sylw a’u perthnasau a’u gofalwyr.

Mae pedwar chynllun Darllen yn Well ar gael yng Nghymru:

Mae llyfrau ar gael o unrhyw un o’r Hybiau Cymunedol yn Sir Fynwy.

Mae aelodaeth llyfrgell yn rhad ac am ddim i bawb ac nid oes unrhyw daliadau hwyr am unrhyw un o’r llyfrau yn y tri Cynllun Darllen yn Well.

Mae nifer o’r teitlau ym mhob cynllun ar gael yn Gymraeg, gyda theitlau newydd yn cael eu hychwanegu wrth iddynt ddod ar gael.

Mae rhai o’r llyfrau ar gael ar ffurf e-sain ac e-Lyfr drwy Borrowbox, y darparwr llyfr e-Lyfrau ac e-sain ar gyfer holl lyfrgelloedd Cymru.

I gael gwybod mwy ewch i https://reading-well.org.uk/cymru

Llyfrau Hybu Hwyliau – dyma ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo teitlau dyrchafol gan gynnwys nofelau, barddoniaeth a llyfrau ffeithiol. Argymhellir yr holl lyfrau gan ddarllenwyr a grwpiau darllen.

I gael gwybod mwy am raglenni darllen eraill ewch i safle we’r Asiantaeth Ddarllen.

Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn elusen genedlaethol sy’n mynd i’r afael â heriau mawr bywyd trwy nerth profedig darllen. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Ddarllen i gyflwyno Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.