Skip to Main Content

Y peth gorau yw gofyn am help yn gynnar cyn bod problemau yn gwaethygu. Gallwch atgyfeirio eich hunan, neu os yw’n well gennych gallwch ofyn i berson arall gysylltu â ni ar eich rhan. Gallai hyn fod yn weithiwr cymdeithasol, swyddog tai, aelod o’ch teulu, cyfaill neu unrhyw gynrychiolydd arall.

Os nad ydych yn sicr os yw cymorth yn iawn i chi, awgrymir eich bod yn cysylltu â ni beth bynnag. Gallwn drafod y mathau o gymorth y gallwn eu cynnig. Os nad ni yw’r bobl gywir i’ch cefnogi, gallwn eich helpu i ganfod help arall mwy addas.