Skip to Main Content

Mae tîm rheoli rhwydwaith y priffyrdd yn rheoli amrywiaeth o wasanaethau:

Nod yr adran briffyrdd yw cadw modurwyr yn symud drwy gyd-drefnu gwaith ar y briffordd yn effeithiol.

Mae tîm rheoli rhwydwaith y priffyrdd yn ymdrin â phob agwedd ar waith ymgymerwyr statudol (nwy, trydan, dŵr a thelathrebu) ar y briffordd.

I wneud unrhyw gais arall am wasanaeth sy’n ymwneud â gwaith ar y briffordd, h.y. tyllau yn y ffordd, llifogydd, goleuadau stryd neu ymholiadau cyffredinol ynglŷn â’r priffyrdd, dylai eich man cyswllt cyntaf fod yn un o’r siopau un stop.

Mae’r tîm hefyd yn cydlynu unrhyw waith ar y briffordd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdrawiadau a fyddai’n atal traffig rhag symud ar rwydwaith priffyrdd Sir Fynwy.

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost highways@monmouthshire.gov.uk