Skip to Main Content

Mae gwasanaethau cyhoeddus a’r cymunedau a wasanaethant yn wynebu heriau mawr. Nid yw’r atebion gennym bob amser. Mae GovTech Catalyst yn gynllun newydd a gafodd ei greu gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu i helpu busnesau technoleg i ddatblygu atebion arloesol i heriau’r sector cyhoeddus.

Gwnaeth Sir Fynwy gais llwyddiannus i GovTech Catalyst a dyrannwyd hyd at £1.25m o gyllid Swyddfa’r Cabinet i ni er mwyn annog cwmnïau technoleg i ddatblygu a threialu datrysiadau i unigrwydd a diffyg trafnidiaeth wledig. Mae gan fusnesau ryddid i awgrymu datrysiadau drwy broses cyn caffaeliad masnachol (PCP) dan enw’r Cynllun Ymchwil Busnesau Bach (SBRI). Yng Ngham 2 caiff pum prosiect posibl eu dewis i dderbyn cyllid o hyd at £50,000 yr un ar gyfer costau ymchwil a datblygu. Gellid dyfarnu cyllid o hyd at £500,00 i’r gorau ohonynt yng Ngham 2 i droi’r datrysiadau posibl hyn yn gynnyrch neu gwasanaethau.

I ddatblygu datrysiad posibl, mae’n rhaid i chi yn gyntaf ddeall yr her …

                                           

Mae Sir Fynwy yn sir lled-wledig yn Ne Ddwyrain Cymru gyda phoblogaeth o tua 93,000. Cawsom ein bendithio gyda thirlun godidog, trefi llewyrchus a llawer iawn o gyfalaf cymdeithasol. Eto mae gan amrywiaeth ein tirlun ei heriau. Mae unigrwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng unigrwydd, ein poblogaeth gynyddol heneiddiol ac ymddatod ein hymdeimlad o gymuned.

Mae cyllidebau is mewn gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn golygu fod llai o arian ar gael i roi cymhorthdal i wasanaethau cludiant traddodiadol. Mae hwn yn fater pwysig mewn ardaloedd gwledig lle gall gymryd mwy na dwy awr i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i wasanaethau lleol. Fel canlyniad mae preswylwyr yn ddibynnol iawn ar geir preifat sy’n gostus yn ariannol ac yn amgylcheddol, gan waethygu problemau unigrwydd a’i gwneud yn anos i bobl ifanc gael mynediad i hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae tri rhan yn yr her a osodwn:

  1. Sut fedrwn ni ddefnyddio technoleg i wella ein cysylltiad gyda phobl hŷn i ostwng unigrwydd tra’n lleihau allgau digidol?
  2. Sut fedrwn ni gydlynu trafnidiaeth yn fwy effeithiol i gynyddu gallu pobl i deithio mewn ardaloedd gwledig tra’n gostwng cymhorthdal cyhoeddus?
  3. Sut allwn ni gysylltu pobl mewn ardaloedd gwledig yn well i wella llesiant a gostwng pwysau ar y systemau iechyd a gofal cymdeithasol tra’n gwella effeithiolrwydd gwasanaeth?

Croesawyd ceisiadau gan gwmnïau a all ddatblygu datrysiadau i un neu fwy o’r rhannau hyn. Drwy ddull SBRI, byddwn yn cael datrysiad arloesol a phwrpasol sy’n mynd i’r afael yn syth â’n her. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyllid ar gyfer ymchwil a datblygu ac yn cadw’r eiddo deallusol gyda stamp cymeradwyaeth fydd yn helpu busnesau i ddenu diddordeb byd-eang i werthu eu cynnyrch i eraill.

Ble ydym ni arni nawr?

Agorodd Cam 1 ein her ar 16 Gorffennaf a chau ar gyfer ceisiadau ar 5 Medi 2018. Cawsom ein synnu a’n plesio’n fawr gan lefel uchel y diddordeb yn yr her. Cofrestrodd 108 o rai â diddordeb am yr her drwy borth Innovate UK a derbyniwyd 57 cais o hyn. Derbyniwyd ceisiadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, gyda 14% ohonynt yn geisiadau gan fusnesau yng Nghymru. Mae ysgogi a chefnogi twf ar gyfer busnesau bach yn ffocws yn SBRI ac felly roedd yn rhagorol gweld fod 65% o’r ceisiadau gan fusnesau micro (yn cyflogi <10 o weithwyr).

Yn dilyn asesiaed y ceisiadau gan banel annibynnol Innovate UK, dyfarnwyd pump contract i gynnal prosiectau arloesol. Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys amrywiaeth o dechnolegau digidol fel apiau, gwefannau, sianeli ar-lein a gwasanaethau testun. Ymchwiliodd y pum cwmni sut i integreiddio gyda sianeli presennol megis ffôn llinell daear a thechnoleg ymateb i lais i sicrhau hygyrchedd i bawb. Edrychwyd hefyd ar ddata olrhain cerbydau, adnoddau presennol a ffynonellau data agored i wella gwasanaethau a hybu llesiant.

Y pum cwmni a ddewiswyd ar gyfer Cam 1 oedd

Mae Box Clever Digital Ltd (BCD) yn anelu i ddarparu llwyfan dan gyfeiriad y gymuned i alluogi pobl i’w helpu ei gilydd drwy gyfateb pobl yn seiliedig ar ystod o ffactorau i’w galluogi i gynnal sgyrsiau amser real drwy sianel ddiogel o’u dewis eu hunain.

Mae The Behavioural Insights Team (BIT) wedi ymchwilio hyfywedd posibl gwasanaeth digidol newydd sy’n dod ynghyd ag unigolion cymdeithasol anghysbell drwy amrywiaeth o sianeli cyfathrebu – gan gynyddu hygyrchedd a chysylltu pobl gyda’u cymheiriaid, gwirfoddolwyr, yn ogystal â gweithwyr cymorth a gweithwyr gofal iechyd eraill.

Mae Zipabout yn anelu i ddatblygu ecosystem symudedd i fynd i’r afael ag anghenion trafnidiaeth lleol a mynd i’r afael ag unigrwydd gwledig a diffyg hygyrchedd. Gobeithient wneud hyn drwy wneud y defnydd mwyaf o gapasiti ac adnoddau mewn modd ystyrlon a chysylltu hynny gyda galw go iawn i ddarparu symudedd gwledig fel gwasanaeth.

Edrychodd GPC Systems Cyf ar ddefnyddio technoleg ddigidol i ddynodi cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y gymuned drwy ddulliau digidol a heb fod yn ddigidol. Fel datrysiad agored, anelai’r proseict hyrwyddo cydweithio drwy fynediad i well addysg, gan gefnogi a galluogi sefydliadau i wasanaethu’r cymunedau gwledig yn well.

Roedd ffocws Enable International Cyf ar fynd i’r afael ag unigrwydd yn uniongyrchol drwy ddarparu llwyfan cludiant a system cyfathrebu i reoli symudedd “fel gwasanaeth” a fydd yn rhoi’r hyder i bobl adael eu cartrefi drwy ddarparu cludiant hygyrch.

Treuliodd y pum busnes dri mis yn datblygu eu syniadau a’u profi gydag aelodau’r gymuned, y trydydd sector a sefydliadau eraill. Rhoddodd yr ymchwil a datlbygu a gynhaliodd y pum busnes hwn wybodaeth werthfawr ar effeithiau unigrwydd a diffyg cludiant yn Sir Fynwy a chafwyd cynigion cyffrous ar gyfer ceisiadau Cam 2.

Agorodd Cam 2 ar gyfer ceisiadau ym mis Mai 2019 a chafodd Box Clever Digital Cyf a BIT eu dewis i dderbyn cyllid pellach gan GovTech o hyd at £500,000 yr un i ddatblygu eu datrysiadau i fod yn gynnyrch neu wasanaethau hyfyw a fedra fod o fudd i gymunedau yn Sir Fynwy ac, os yn llwyddiannus, eu hymestyn i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Bydd y ddau brosiect yn rhedeg am ddeuddeg mis o fis Medi 2019. Gyda’i gilydd, mae ganddynt y potensial i roi’r sylfeini ar gyfer gwella cysylltiadau a llesiant yng nghymunedau gwledig Sir Fynwy.

Edrychwn ymlaen at roi gwybodaeth ychwanegol wrth i’r prosiectau a gyllidir fynd rhagddynt.

Dolenni defnyddiol

Cynllun Llesiant ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Ein Hasesiad Llesiant

Asesiad Anghenion Poblogaeth

Astudiaeth Trafnidiaeth Wledig Sir Fynwy