Rydym yn cefnogi pobl i aros yn annibynnol ac i gadw rheolaeth dros eu bywydau. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r hyn sy’n bwysig i chi, wrth i ni edrych gyda’n gilydd ar eich dewisiadau ymhlith yr ystod o opsiynau sydd ar gael. Y nod yw eich helpu i gynnal ansawdd bywyd da, neu eich helpu i ddod o hyd i bobl eraill a allai roi cymorth i chi.
Cafodd cyfraith ei phasio yng Nghymru sy’n anelu i gynnal a gwellallesiant pobl mewn angen. Gelwir hyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Caiff y ffordd y gweithiwn ei lywio gan y gyfraith. Anelwn i:
- Gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i chi
- Cyfathrebu â chi mewn ffordd yr ydych yn ei deall
- Gweithio gyda chi, a dwyn ynghyd dim ond y bobl hynny a all eich helpu i fyw eich bywyd eich hun
- Bod yn sensitif ynglŷn â pha lle yr ydym yn ei ddewis i wrando arnoch
- Gweithio gyda chi i ganfod atebion i unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu profi
- Mynd ati i ymgysylltu â’n cymunedau lleol er mwyn datblygu cyfleoedd a fydd yn helpu pobl i gryfhau eu rhwydweithiau cymorth
- Defnyddio ein hadnoddau mor greadigol a hyblyg ag y bo modd.
Pwy allai fod yn awyddus i gysylltu â ni?
Os ydych yn oedolyn (dros 18 oed) sydd â:
- Cyflwr iechyd tymor byr neu dymor hir
- Anabledd corfforol
- Anabledd dysgu
- Anghenion iechyd meddwl
- Anhwylder ar y sbectrwm awtistig
- Neu os ydych yn ofalwr
byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod yr hyn sy’n bwysig i chi, ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth gofal cymdeithasol. Os ydych yn gymwys i gael cymorth, byddwch yn cael asesiad ariannol i weld a oes angen i chi dalu tuag at y gost.
Sut i gysylltu â ni
Cysylltwch â’n llinellau dyletswydd FISH (Finding Individual Solutions Here):
Trefynwy / Brynbuga / Rhaglan – 01600 773041
Y Fenni – 01873 735885
Cas-gwent / Cil-y-coed – 01291 635666