Skip to Main Content

Yn ystod oriau swyddfa gellir cysylltu â swyddog ar ddyletswydd drwy ein llinell gyngor ffôn ar 01873 735426 neu drwy e-bost MLS@monmouthshire.gov.uk ar unrhyw fater ar gyfer unrhyw gyngor a gwybodaeth yn ymwneud â thai preifat.

Caiff gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer landlordiaid preifat eu cyflwyno drwy staff allweddol o fewn y Tîm Opsiynau Tai. Gall ein staff cyfeillgar a gwybodus gynnig cyngor a chymorth ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau rheoli eiddo a gynlluniwyd ac a fwriadwyd yn benodol ar gyfer landlordiaid preifat ac sy’n ffurfio rhan o’n ‘Cynnig i Landlordiaid’. Mae’r holl wasanaethau yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd. Mae ein tîm o staff lleol i gyd yn swyddogion tai proffesiynol ac yn brofiadol iawn mewn rheoli eiddo, cysylltu â thenantiaid a chynghori landlordiaid. Mae gan staff wybodaeth fanwl o’r farchnad tai leol.

Mae cymorth hefyd ar gael i denantiaid a darpar denantiaid.

Nid yw ein holl wasanaethau yn rhad ac am ddim. Drwy fod yn rhan o’r Cyngor, mae gan staff fantais unigryw o fod â chysylltiadau agos gyda nifer eang o dimau mewnol a hefyd sefydliadau allanol megis Budd-dal Tai, Cefnogaeth Tenantiaeth a Chynllun Bond Seren i helpu ateb ymholiadau neu ddatrys problemau mewn modd proffesiynol.

Housing Request a call back
First