Skip to Main Content

Ydych chi’n gaeth i’ch cartref? Ydych chi’n ei chael yn anodd mynd i’ch llyfrgell leol oherwydd problemau symudedd, afiechyd neu lesgedd?

Os felly, gallai’r Gwasanaeth Dosbarthu i Gartrefi fod yn union yr hyn rydych ei angen gan fod y gwasanaeth hwn yn defnyddio fan fach i ddosbarthu llyfrau i gwsmeriaid yn eu cartrefi eu hunain.

 *   Gallwn ddosbarthu llyfr ym mhob fformat (print cyffredin, print bras a sain)

 *   Dosbarthwn eitemau bob tair wythnos

 *   Gallwn ddosbarthu hyd at 20 llyfr y cwsmer ym mhob ymweliad

 *   Mae’r gwasanaeth yn hollol rhad ac am ddim (dim ffi am geisiadau neu eitemau hwyr)

 *   Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir Fynwy

Ffoniwch  (01291 635730) neu anfon e-bost at Hyb Cas-gwent os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn y gwasanaeth.