
Hyfforddwr Ffitrwydd
A oes profiad gennych yn y Diwydiant Ffitrwydd a sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn medru darparu safon uchel o wasanaeth cwsmer? Rydym yn chwilio am Hyfforddwyr Dosbarth Ffitrwydd angerddol a phenderfynol sydd wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad ymhlith gweithgareddau ffitrwydd ac i hyrwyddo iechyd a lles yn Swît Ffitrwydd a Stiwdios Cadw’n Heini mewn Grŵp hollol newydd yn Y Fenni.
Cyfeirnod Swydd: LFSI03CH
Gradd: Band D SCP 9 – 13 £23,194.00 - £24,948.00 y flwyddyn
Oriau: 30 yr wythnos
Lleoliad: Canolfannau Hamdden Cas-gwent
Dyddiad Cau: 15/12/2022 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd