Skip to Main Content

Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd talu eu rhent neu forgais neu ddyledion eraill. Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl cyn i’r broblem waethygu. Gall Opsiynau Tai eich cyfeirio at gyngor dyledion os yw’ch dyledion yn effeithio ar eich cartref ac mae rhestr o sefydliadau a all eich helpu.

Os nad ydych yn talu eich rhent neu forgais, gall eich landlord neu fenthycwr gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i’ch troi allan o cartref neu ailfeddiannu eich cartref, Peidiwch BYTH anwybyddu hynny os ydych yn cael problemau’n gwneud eich taliadau – ni fydd y broblem yn diflannu. Mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor cyn gynted ag sydd modd.

Siaradwch gyda’ch benthycwr neu landlord. Drwy eu hysbysu byddant yn gwybod beth sy’n digwydd ac efallai y gallant eich helpu. Os teimlwch y byddai’n cael budd o gymorth ariannol, cysylltwch â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

Os ydych mewn risg o golli eich cartref cewch eich gynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

Os ydych yn cael problemau’n trin dyled, caiff nifer o asiantaethau eu rhestru islaw sy’n cynnig gwasanaeth am ddim ar gyngor dyledion. Mae’n bwysig y rhoddir blaenoriaeth i daliadau rhent gan y gallech fod mewn risg o golli eich cartref.

Os ydych eisoes mewn risg o golli eich cartref, fel mater o frys, cewch eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’r Hybiau Cymunedol.

Mae cyngor hefyd ar gael gan:

· National Debt Line https://www.nationaldebtline.org/

· Gwasanaeth Cyngor Arian https://www.moneyadviceservice.org.uk/en

· Cyngor Ar Bopeth https://www.citizensadvice.org.uk/

· Advice Now http://www.advicenow.org.uk/guides/help-directory

Gwybodaeth i Landlordiaid

· Rhentu Doeth Cymru

· Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy

· Rhenti, Ernesau, Bondiau