Skip to Main Content

Pa fath o Drwyddedau Parcio ydych chi’n eu cynnig?

Rydyn ni’n cynnig y cynlluniau trwyddedau parcio dilynol i’r cyhoedd:  

  • Trwydded Preswylydd
  • Trwydded Tymor Maes Parcio Arhosiad Byr
  • Trwydded Tymor Maes Parcio Arhosiad Hir
  • Trwydded Tymor Maes Parcio Penodol (dim ond yn gymwys mewn meysydd parcio gyda thâl dyddiol unigol o £1.80) – Os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun hwn ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at carparking@monmouthshire.gov.uk  

I gael mwy o wybodaeth ewch i’n tudalen gwefan os gwelwch yn dda  – Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth ar drwyddedau parcio 

A fydd fy nhrwydded bresennol ar gyfer “pob maes parcio” yn dal yn ddilys yn dilyn y newid diweddar yn y mathau trwydded Tymor ar gyfer Meysydd Parcio Arhosiad Byr neu Arhosiad Hir?

Bydd, bydd eich trwydded tymor presennol ar gyfer “pob maes parcio” yn ddilys nes daw i ben. Ni fydd angen i chi ddychwelyd y drwydded na thalu swm ychwanegol, gallwch barhau i ddefnyddio’r hen fath o drwydded fel o’r blaen. Bydd y costau newydd a’r mathau o drwydded yn dod i rym ar eich cyfer pan fydd yn amser i chi adnewyddu eich trwydded. Bydd yn rhaid i chi wedyn ddewis pa fath o faes parcio y dymunwch brynu trwydded ar ei gyfer.

Nid wyf bellach angen fy nhrwydded parcio; a allaf gael ad-daliad?

Dim ond ar ein trwydded Tymor yr ydym yn rhoi ad-daliad, nid yw pob math arall o gynllun trwydded yn gymwys am ad-daliad. Caiff hyn ei nodi yn y canllawiau a gawsoch pan wnaethoch gais.

I’n galluogi i brosesu ad-daliad, bydd angen i chi anfon y drwydded yn ôl atom ynghyd â llythyr i ofyn am ad-daliad. Heb ohebiaeth ysgrifenedig i ganslo eich trwydded ac anfon y drwydded yn ôl i’r swyddfa, ni fyddwn yn medru symud ymlaen gyda’ch cais am ad-daliad. Caiff ad-daliad ei gyfrif ar nifer y dyddiau sydd ar ôl ar y drwydded pan fyddwn yn ei derbyn. Dylid nodi y codir ffi gweinyddol o £20.00 am y cais hwn, caiff hyn ei dynnu o’r swm sydd ar ôl. Os hoffech ganslo eich trwydded tymor, cysylltwch â ni drwy e-bost i carparking@monmouthshire.gov.uk.  

A allaf wneud cais am 2 drwydded preswylydd? 

Mae ein polisi Trwydded Preswylydd yn dweud mai dim ond 1 trwydded preswylydd y gallwn ei chyhoeddi ar gyfer pob aelwyd. Mae hyn oherwydd mai nifer gyfyngedig o ddyraniadau sydd gan y cyngor. Yn anffodus, ni allwn ddarparu parcio i bob preswylydd. Fodd bynnag, os oes gennych nifer o gerbydau, yr ydym yn cynnig cynlluniau trwydded tymor y gellir eu prynu.

A allaf newid y dyraniad a gefais ar fy nhrwydded preswylydd?

Os yw’r ymgeisydd yn llwyddiannus caniateir iddynt barcio yn y dyraniad a roddir sy’n dibynnu ar gyfeiriad yr ymgeisydd. Caiff y dyraniad ei benderfynu ar gymhwyster daearyddol y cyfeiriad; felly ni fedrwn newid y dyraniad a roddwyd ar y drwydded preswylydd.

Pa ddogfennau wyf i eu hangen i wneud cais am Drwydded Preswylydd?

Rydym angen y dogfennau dilynol gan yr ymgeisydd – Tystiolaeth Preswylio h.y. Bil Cyfleustod, Cytundeb Tenantiaeth neu Ffurflen Treth Gyngor a Thystiolaeth o Berchnogaeth y cerbyd (mae hyn i gadarnhau fod y cerbyd wedi ei gofrestru i’r cyfeiriad) h.y. dogfen V5 gyfredol,  Bil Gwerthiant neu Gytundeb Hurio.

Beth sy’n eich gwneud yn gymwys am drwydded preswylydd?

Os ydych yn byw mewn ardal gyda chyfyngiadau parcio “ar y stryd” ac nad oes gennych gyfleusterau parcio i ffwrdd o’r stryd gyda’ch cartref. Os ydych yn byw’n agos at Faes Parcio Talu ac Arddangos, gallech fod yn gymwys am drwydded parcio preswylydd lle’n berthnasol: mae hyn yn dibynnu ar ddyraniad ac argaeledd.

Rwyf wedi newid fy ngherbyd yn ddiweddar; sut y gallf newid yr wybodaeth hon ar fy nhrwydded?

Os ydych angen i fanylion eich cerbyd gael eu newid ar eich trwydded, anfonwch e-bost at  carparking@monmouthshire.gov.uk lle gallwn eich hysbysu am y broses. Dylid nodi y gall fod ffi am y cais hwn mewn rhai cynlluniau.

Rwyf wedi colli fy nhrwydded, sut gallaf i gael trwydded yn ei lle?

Gellir cyhoeddi trwydded yn lle ar gyfer unrhyw drwydded a gafodd ei cholli’n barhaol, ei dwyn neu ei difrodi ond bydd y drwydded wreiddiol yn dod yn annilys yn syth drwy gyhoeddi’r drwydded yn lle. Cysylltwch â Meysydd Parcio lle gallwn drafod y broses yn fanylach.

Codir ffi gweinyddu o £10.00 am bob trwydded yn lle.

A wyf yn sicr o gael Trwydded Preswylydd? 

Yn anffodus, ni fedrwch fod yn sicr y cewch drwydded preswylydd; gallai hyn fod oherwydd fod yr ymgeisydd yn anghymwys ac mai nifer gyfyngedig o drwyddedau sydd ar gael. Os yw eich cais yn aflwyddiannus oherwydd y nifer sydd ar gael, byddwn yn eich hysbysu pan ddaw lle ar gael. Caiff ein dyraniadau eu monitro’n rheolaidd. 

Ni chefais fy hysbysu ei bod yn amser adnewyddu fy nhrwydded, beth ddylwn i wneud?

Cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw adnewyddu eu trwydded; fe’ch cynghorir i adolygu eich trwydded o leiaf 14 diwrnod cyn iddi ddod i ben.

Gallwch adnewyddu eich trwydded hyd at fis ymlaen llaw o’r dyddiad dod i ben. 

Sut mae gwneud cais am drwydded parcio?

Gallwch wneud cais am gerdyn parcio ar-lein drwy gyfrwng i’n porth cais am drwydded: Ymgeisiwch Yma

Faint yw trwydded parcio? 

Cliciwch yma i weld gwybodaeth am drwyddedau parcio.