Skip to Main Content

 TIWTOR: Mary Reed

DISGRIFIAD CWRS:

Cwrs a ariennir yn rhannol yw hwn sy’n gysylltiedig â Sgiliau Hanfodol Cymru; byddwch yn datblygu’ch dealltwriaeth o Lythrennedd Digidol gan ddefnyddio gwahanol offer, gwefannau a dyfeisiau storio. Yn gyffredinol, cysylltir pynciau â’ch dewis chi o ran pwnc, gan ddefnyddio’r Rhyngrwyd i chwilio a lleoli a storio gwybodaeth. Yn ystod y cwrs, byddech yn cael gwybodaeth o ran Creadigrwydd a Chynhyrchiant Digidol gan greu technegau arbed ac argraffu dogfennau graffig. Edrychir ar gyfrifoldeb digidol gyda phynciau’n cynnwys cyfrineiriau diogelwch Rhyngrwyd a chydweithredu ag aelodau eraill y grŵp ar-lein.  Defnyddio ffurflenni Ar-lein i gyfathrebu syniadau a gwybodaeth.

Mae hwn yn grŵp gallu cymysg ac mae croeso i ddechreuwyr gan y byddech yn gweithio ar eich cyflymder eich hun. Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Agored Cymru, a byddech yn ennill tystysgrif yn y pwnc a astudiwyd.

Byddwch yn derbyn nodiadau cwrs a thaflenni a chanllawiau’r Tiwtor Llythrennedd Digidol; byddwch yn cynhyrchu portffolio o dystiolaeth a fydd, ar ôl safoni, eich cofnod chi i’w gadw.

RHAGOFYNION:

Ni ddisgwylir unrhyw wybodaeth gyfrifiadurol; ond mae digon o gyfle i ddatblygu sgiliau presennol, gan y bydd hwn yn grŵp gallu cymysg.

CANLYNIADAU:

Tystysgrif Agored Cymru

ANGHENION MYFYRWYR O RAN UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER:

Pad nodiadau, pennau, ffeil Storio. Dyfais storio USB, cyfeiriad e-bost – bydd y tiwtor yn argymell un os oes angen

TIWTOR: Mary Reed

Rwyf wedi bod yn addysgu TGCh am rai blynyddoedd. Cefais fy nghymhwyster cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd a thystysgrif addysgu yng Nghaerllion. Cedwais yn gyfredol drwy gael fy nghymhwyster addysgu llythrennedd digidol. Mynychais lawer o gyrsiau dan arweiniad Cannon UK a chwrs y Brifysgol Agored ar bwnc deall achau.

Rwy’n addysgu cyfrifiadureg i ddechreuwyr hyd at haen 3 lefel “A”, gan gyflwyno dysgwyr i’r byd digidol yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn cynnwys camerâu digidol. Roedd fy menter newydd y llynedd i fyd hanes teulu a hel achau. Eleni rwy’n datblygu cyrsiau’n seiliedig ar storio cwmwl a chymwysiadau.

Rwyf wrth fy modd yn rhannu gwybodaeth a llwyddiant myfyrwyr yn yr hyn y maent yn ei gyflawni.