Skip to Main Content

Mae ein holl ganolfannau ar agor ar hyn o bryd ar gyfer dosbarthiadau addysg oedolion wyneb i wyneb.

Hoffem sicrhau yr holl ddysgwyr a darpar ddysgwyr fod ein holl ganolfannau â’r cyfarpar cywir ac wedi paratoi i gyflwyno dosbarthiadau mewn amgylchedd diogel o ran Covid. Gweithredwn bellter cymdeithasol rhwng ein holl ddysgwyr a staff, mae angen gwisgo gorchuddion wyneb, dilyn systemau un-ffordd, cyfyngir y nifer mewn dosbarthiadau ac mae mannau ar gyfer diheintio dwylo.

Dyfyniadau gan ddysgwyr presennol ar ddychwelyd i ddosbarthiadau wyneb i wyneb …….

Dosbarth Llythrennedd Trefynwy:

“Rwy’n hapus iawn i ddod nôl i’r dosbarth i ddysgu mwy o Saesneg ac yn teimlo’n ddiogel iawn. Mae Catrin yn barod iawn i helpu, yn athrawes dda, ac rwyf wedi dysgu llawer o bethau”.

“Rwy’n falch i ddysgu eto a bod yn ôl yn y dosbarth. Rwy’n teimlo’n ddiogel iawn yn y dosbarth”.

“Rydw i eisiau mynd yn ôl i’r ysgol oherwydd fod  gen i angen dysgu, mae fy nosbarth yn ddiogel i bob myfyriwr”.

Dosbarthiadau Celf Cas-gwent:

“Mae gwaith y staff yn y llyfrgell i’w gwneud yn ddiogel dychwelyd i ddosbarthiadau yn ddiogel. Mae digon o le rhwng y dasgiau, rydym yn gallw tynnu ein masgiau ar ôl eistedd  lawr os dymunwn, ond mae angen i ni eu gwisgo wrth gerdded i unrhyw le. Rwyf hefyd wedi gweld y staff yn glanhau’r desgiau yn drwyadl ar ôl i ni orffen. Rwy’n teimlo’n ddiogel mynychu fy nosbarth celf”.

“Cefais y trefniadau i atal lledaenu Covid 19 yn dda iawn. Roedd gan bob myfyriwr eu bwrdd eu hunain yn ddigon pell oddi wrth eu cymdogion, roedd hylif diheintio dwylo ar gael a rheolau am wisgo masgiau wyneb yn cael eu gorfodi. Doeddwn i dddim yn teimlo’n anniogel o gwbl”.

Cyfrifiaduron Cas-gwent:

“Roedd yn bryder dychwelyd i Hyb Cs-gwent i ddechrau ond fe wnes i sylweddoli mewn dim o dro fod y dosbarth yn cael ei redeg yn ddiogel, gyda phob aelod yn cymryd rhan fel oedd angen o fewn y rheoliadau. Dydw i ddim yn petruso dim rhag mynd i’r dosbarth arddrchog fel arfer nawr”.

“Dim ond nodyn i ddweud diolch am ailgychwyn y Cwrs Cyfrifiaduron yn y llyfrgell. Mae mor dda bod nôl ac rwy’n teimlo’n ddiogel yn yr amgylchedd, mewn gwirionedd yn fwy diogel nag ar stryd brysur, gan ein bod mewn gofod da mewn adeilad mawr ac mae’r holl offer yn cael eu glanhau ar ôl eu defnyddio. Mae’n dda bod nôl i “normal”. Hir oes iddo barhau …

Y Fenni ILS:

“Rwy’n hapus ac yn falch i fod yn ôl, allan o’r tŷ ac yn gweld fy ffrindiau”.

“Rwy’n teimlo’n fwy diogel oherwydd fod pobl yn gwisgo masgiau a bod hylif diheintio dwylo. Hefyd mae digon o le rhwng pobl”.

“Mae’n braf iawn bod yn ôl gyda fy ffrindiau. Gwych, newid, yn teimlo’n ddiogel”.

“Rwy’n hoffi dod yn ôl, gweld pobl newydd. Mae’n dda cael y lle, 2m, gyda fy hylif diheintio fy hunan ar y byrddau. Teimlo’n ddiogel. Mae pawb yn gwisgo masg”.

Y Fenni – Celf :

“Pan ailddechreuodd dosbarthiadau celf Cyngor Sir Fynwy ar ôl y ‘cyfnod clo’ diwethaf, neidiais ar y cyfle o ddosbarthiadau wyneb i wyneb eto. Doeddwn i ddim wedi cymryd rhan yn unrhyw ran o’r dosbarthiadau Zoom a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd mewn dysgu gydag eraill ac addysgu wyneb yn wyneb sy’n rhoi mwyaf o fwynhad i fi. Yng nghyswllt mesurau rhagofalu Covid, mae’r dosbarth yn llai nag arfer, mae’r ffenestri ar agor a chaiff yr ystafell ddosbarth ei hawyru’n dda iawn. Mae digon o le ar gyfer pellter cymdeithasol. Mae ein tiwtor Emma yn dda iawn am ein hatgoffa i gyd i lanhau ein gweithle cyn ac ar ôl pob dosbarth, gyda diheintydd ar gael, ac mae hylif diheintio dwylo ar bob bwrdd. Anogir pobl i wisgo masgiau hefyd ac mae pobl yn gwneud hynny. Nid oes unrhyw weithgaredd allanol heb risg, ond rwy’n teimlo fod yn rhaid cymryd pob mesur gofalu. Rwyf wirioneddol yn mwynhau fy nosbarth celf ac mae’n wych bod yn ôl yn dysgu. Rwyf wrth fy modd yn gweld pobl eraill, y sgwrs a chael cwpl o oriau bob wythnos i ymgolli mewn rhywbeth ar wahân i ‘fywyd arferol’”.

Edrychwch pa ddosbarthiadau sydd gennym ar gael!