Skip to Main Content

Ynglŷn â gorfodi sifil ar barcio  

Ar 8 Ebrill 2019, cymerodd Cyngor Sir Fynwy’r cyfrifoldeb o orfodi sifil ar barcio neu GSB oddi wrth yr heddlu. Golyga hyn ein bod yn gallu darparu camau gorfodi sifil ar y rhan fwyaf o gyfyngiadau parcio ar-y-stryd a’r holl gyfyngiadau parcio oddi ar y stryd ar draws Sir Fynwy.    

Os ydych chi’n parcio gan dorri rheolau traffig, nyddwch yn destun dirwy a elwir yn rhybudd tâl cosb neu RhTC. 

Bydd yr arian a godir drwy rybuddion tâl cosb yn mynd tuag at y gost o redeg Gorfodi Sifil ar Barcio. Bydd unrhyw incwm dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn mentrau trafnidiaeth a gwelliannau ffyrdd, yn unol â chanllawiau’r Adran Drafnidiaeth.   

Buddion GSB 

Dan GSB bydd gwell gorfodi o reoliadau parcio presennol.  Bydd hyn yn arwain at well parcio mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau, ynghyd â throsiant gwell o leoedd parcio – cefnogi canol trefi  a strydoedd siopa gan y bydd yn haws i ymwelwyr a siopwyr barcio. 

Mae GSB yn gwella diogelwch cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd gan nad yw pobl yn gallu torri cyfyngiadau megis llinellau melyn dwbl neu farciau igam-ogam. 

Mae buddion eraill yn cynnwys: 

  • sicrhau mynediad teg i barcio  
  • gweithredu fel cyfrwng atal parcio anystyriol a pheryglus  
  • lleddfu tagfeydd a llygredd drwy gadw’r priffyrdd ar agor fel bod traffig yn llifo’n rhydd  
  • lleihau cam-drin lleoedd parcio’r anabl, gan eu gadael  yn rhydd ar gyfer deiliaid bathodyn glas dilys 
  • cynyddu mynediad ac amserau ymateb ar gyfer cerbydau argyfwng  
  • gwella diogelwch y tu allan i’r ysgol