Skip to Main Content

Mae Cymorth Tai yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy ar gyfer pobl sy’n byw yn Sir Fynwy sy’n cael anhawster wrth gadw neu ganfod cartref. Gall unrhyw un sy’n byw yn Sir Fynwy wneud cais am gymorth, pa bynnag fath o gartref yr ydych yn byw ynddo.

Sut y gall Cymorth Tai fy helpu?

Gall cymorth tai roi’r help i chi yr ydych ei angen i fynd i’r afael â’ch problemau tai megis:

  • Trin eich arian a dyledion (yn cynnwys ôl-ddyledion rhent/morgais) a hawlio budd-daliadau
  • Helpu i ganfod neu sefydlu a rhedeg eich cartref eich hun, er enghraifft cysylltu gyda chyflenwyr nwy a thrydan
  • Deall eich cyfrifoldebau fel tenant
  • Eich rhoi mewn cysylltiad gyda help ychwanegol, er enghraifft ar gyfer problemau cyffuriau ac alcohol ac iechyd meddwl. Gall gweithwyr cymorth eich helpu i gysylltu â sefydliadau a grwpiau cymorth eraill.
  • Cam-drin domestig. Os ydych yn profi problemau’n gysylltiedig â cham-drin domestig a’ch bod angen cymorth ar frys, gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Rhywiol Cymru – cefnogaeth 24 awr i bob dioddefwr.
  • Help i chwilio am gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg

Beth sy’n digwydd os wyf yn gwneud cais am gymorth tai?

Pan gawn atgyfeiriad, byddwn yn cysylltu â chi i asesu eich anghenion. Os gallwn eich helpu ac os ydych eisiau defnyddio ein gwasanaethau, gallwn drefnu ymweliadau rheolaidd gan weithiwr cymorth. Bydd y gweithiwr cymorth yn trafod eich anghenion gyda chi a gyda’ch gilydd byddwch yn cytuno ar gynllun cymorth sy’n dweud wrthych beth i’w ddisgwyl gan y gwasanaeth a pha mor aml y cewch gymorth.

Sut i wneud cais am gymorth

Os hoffech wneud cais am Gymorth Tai, un ai ar eich cyfer eich hunan neu ar ran rhywun arall, gallwch un ai: