Skip to Main Content

 

Beth ddylech chi wneud os gwelwch rywun yn cysgu ar y stryd

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â Thîm Opsiynau Tai Cyngor Sir Fynwy cyn gynted ag sydd modd os ydych dan fygythiad digartrefedd. Mae’r gwasanaeth digartrefedd yn wasanaeth argyfwng. Gofynnir i chi edrych ar opsiynau a chyngor arall cyn cyflwyno eich hunan i Gyngor Sir Fynwy fel bod yn ddigartref.

 

Mae Swyddfa Opsiynau Tai Cyngor Sir Fynwy ar agor:

08:45 i 17:00 Dydd Llun i ddydd Iau

08:45 i 16:30 Dydd Gwener

 

Gallwch ffonio Swyddfa Opsiynau Tai Cyngor Sir Fynwy yn ystod yr amserau hyn ar 01633 644644 neu anfon e-bost at y tîm Opsiynau Tai yn: housingoptions@monmouthshire.gov.uk. Os ydych mewn sefyllfa argyfwng pan fydd y swyddfa ar gau, gallwch ffonio’r rhif argyfwng tu allan i oriau swyddfa ar 01633 644644.

Cliciwch ar y ddolen islaw i gael mwy o wybodaeth.

Tîm Opsiynau Tai

Mae Cymorth Tai yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy ar gyfer pobl sy’n byw yn Sir Fynwy sy’n cael anhawster mewn cadw neu ganfod cartref. Nid yw o bwys ym mha fath o gartref yr ydych yn byw, gall unrhyw un sy’n byw yn Sir Fynwy wneud cais am gymorth.

Cliciwch ar y ddolen islaw i gael mwy o wybodaeth

Cymorth Tai