Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol Tîm Cefnogi a Diogelu Teuluoedd

Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau a chyfleoedd bywyd plant a theuluoedd yn Sir Fynwy?

 

Dyma gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol ymuno â’n Tîm Cefnogi a Diogelu Teuluoedd yn Sir Fynwy.

Rydym yn dîm deinamig sy’n falch o’r diwylliant yr ydym wedi datblygu o arfer gorau.   Rydym yn sicrhau bod asesiadau, gwaith uniongyrchol a rheoli achosion yn parhau i flaenoriaethu canlyniadau gwell i blant a theuluoedd.  Yn ganolog i’r datblygiad hwn sicrhawyd bod gan ein hymarferwyr y profiad a’r gefnogaeth i weithio gyda theulu i ddatblygu cynllunio gofal a sicrhau bod llais y plentyn a’r teulu yn ganolog i’r broses asesu.   Eich rôl chi fydd cefnogi’r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn rhoi’r plant, y bobl ifanc, a’r teuluoedd wrth ganol popeth rydyn ni’n ei wneud.

Oes gennych brofiad o weithio mewn lleoliad statudol neu wirfoddol o wasanaethau i blant? Ydych chi wedi ymrwymo i gefnogi plant a theuluoedd drwy’r broses waith cymdeithasol statudol?    Os felly, edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

Cyfeirnod Swydd: SCS489

Gradd: BAND E SCP 14 i 18 (£25,409 to £27,344)

Oriau: 37 awr yr wythnos

Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga

Dyddiad Cau: 23/03/2023 5:00 pm

Dros dro: CONTRACT 12 MIS - CYFNOD PENODOL

Gwiriad DBS: Oes