Skip to Main Content
Delwedd trwy garedigrwydd Sustrans

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu i bob awdurdod lleol gyflwyno 3 chais strategol i’w hystyried er mwyn datblygu’r rhwydwaith Teithio Llesol, ar gyfer y llwybrau hynny a nodir ar Fapiau’r Rhwydwaith Teithio Llesol. Yn 2021, roedd Cyngor Sir Fynwy yn llwyddiannus yn eu 3 chais daearyddol : Cil-y-coed; Trefynwy a’r Fenni.

Yn 2021 cymeradwyodd Llywodraeth Cymru’r cynlluniau a nodir isod. Mae’r testun yn crynhoi uchelgais pob un o’r cynlluniau. Bydd llawer o’r cynlluniau’n cymryd dros 2 flynedd i’w cwblhau.

TROSOLWG AR GYFER CYNLLUN STRATEGOL CIL-Y-COED

Heol yr Eglwys



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Parhau i wella Heol yr Eglwys. Yr uchelgais yw ei throi’n stryd sy’n ystyriol o gerdded a beicio drwy fabwysiadu egwyddor Stryd Dawel. Bydd hyn yn cynnwys: palmentydd mwy llydan, croesfannau â blaenoriaeth i gerddwyr wrth gyffyrdd, cynllun rhannu gofod a mesurau eraill a fydd yn rhoi mwy o flaenoriaethau i feicwyr a cherddwyr. Bydd y cynllun hefyd yn integreiddio seilwaith gwyrdd ar gyfer lles ehangach y gymuned.
  • Gwella’r cysylltiad â Heol Casnewydd drwy ganol y dref i gysylltu â’r B4245. Bydd y dull integredig hwn o deithio llesol o fewn yr ochr ddwyreiniol yn gwella cysylltiadau i breswylwyr gael mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau lleol, yn ogystal â chael mynediad at ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus. • Yn 2021, canolbwyntir ar adeiladu peth o’r cynllun

Aml-gynllun Cil-y-coed Llwybr Defnyddiwr / Parc gwledig y Castell



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Uwchraddio cyswllt croeslin rhwng safleoedd cyflogaeth ym Mitel, Castlegate ac Ystâd Ddiwydiannol Severnbridge gyda’r Castell a’r Parc Gwledig, trwy weithredu fel cyswllt allweddol oddi ar y ffordd rhwng cymdogaethau – yn ogystal â darparu cyswllt yn y dyfodol â llwybr ‘Cysylltiadau Cil-y-coed’ (gweler isod).
  • Gwella cysylltiadau o’r fynedfa i’r Castell (gan gynnwys maes parcio) i gynllun Cysylltiadau Cil-y-coed. • Yn 2021, bydd cyfres o asesiadau ecolegol e.e. pathewod ac ystlumod, yn ogystal ag ymchwiliadau draenio

Cysylltiadau Cil-y-coed



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Datblygu 2.81 cilomedr o’r hen reilffordd yn llwybr Teithio Llesol a fydd yn gwasanaethu nifer o gymunedau lleol. Bydd y llwybr aml-ddefnyddiwr cerdded/beicio (ac mewn mannau marchogaeth) pwrpasol newydd yn hygyrch i drigolion ac ymwelwyr cymunedau Porth Sgiwed, Cil-y-coed a Chaerwent i gael mynediad i gyrchfannau allweddol o ran cyflogaeth a thwristiaeth.
  • Galluogi trigolion yr ystadau tai newydd yng Nghrug a Melin Bapur Sudbrook i fynd i ganol tref Cil-y-coed drwy lwybr gwell.
  • Rhoi cyfleoedd i breswylwyr gael mynediad aml-ddefnyddiwr ar hyd coridor gwyrdd diogel rhwng cymunedau Porth Sgiwed, Cil-y-coed a Chaerwent. • Yn 2021, bydd gwaith yn parhau gyda’r gwaith dylunio, arolygu ac ymgynghori manwl ar gyfer y cynllun hwn.

Heol Casnewydd



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Gwella Heol Casnewydd, i’r gorllewin o welliannau sydd wedi’u cwblhau’n barod yn ardal y ‘Groes’, drwy ganol y dref a hyd at y gyffordd â’r B4245 i wella cyfleusterau cerdded a beicio.
  • Yn 2021, bydd gwaith yn parhau ar y dyluniad terfynol a threial o’r symudiad traffig

TROSOLWG AR GYFER CYNLLUNIAU STRATEGOL Y FENNI

PONT DROED A BEICIO LLAN-FFWYST



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Darparu pont droed a beicio newydd ar draws yr Afon Wysg (tua 50 metr i’r dwyrain o’r bont garreg bresennol, sy’n Heneb Gofrestredig a hefyd wedi’i rhestru’n Gradd II*). Y bont Teithio Llesol newydd fydd prif groesfan yr afon rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn fodurwyr.
  • Yn 2021, bydd angen arolygon arbenigol ychwanegol e.e. amddiffynfeydd rhag llifogydd a chysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau allweddol eraill. Yn seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar i ymgysylltu â’r cyhoedd, y cynllun yw’r flaenoriaeth Teithio Llesol uchaf ar gyfer y Fenni.

CYSYLLTIADAU DOLYDD Y CASTEL



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Gwella mynediad i gerddwyr a beiciau i’r Bont Teithio Llesol newydd arfaethedig, canol y dref a chyrchfannau allweddol: fel y gorsafoedd trenau a bysiau.
  • Yn 2021, bydd ymdrechion yn canolbwyntio ar ddyluniad y llwybrau newydd; trafodaethau tirfeddiannwr; astudiaethau ecolegol ac ymgynghoriadau gydag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol.

CYSWLLT PONT I LAN-FFWYST



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Gwella llwybrau beicio a cherdded o’r bont arfaethedig i Lan-ffwyst.
  • Yn 2021, bydd astudiaethau dichonoldeb yn cael eu cynnal i sefydlu’r llwybr mwyaf diogel a mwyaf priodol i feicwyr a cherddwyr, unwaith y byddant yn croesi’r bont ger tafarn Bridge End tuag at Lan-ffwyst

TROSOLWG AR GYFER CYNLLUNIAU STRATEGOL TREFYNWY

LLWYBR KINGSWOOD GATE-LÔN WILLIAMS FIELD



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Cwblhau ail gam (cynllun tri cham) llwybr hollbwysig i Ysgol Gynradd Overmonnow. Bydd y cynllun hwn yn uwchraddio llwybr anffurfiol, oddi ar y ffordd, sy’n bodoli eisoes.
  • Nododd ymateb y cyhoedd i’r Ymgynghoriad Teithio Llesol yn 2020 fod y llwybr hwn yn un yr oedd angen ei wella’n sylweddol.
  • Dechreuodd y gwaith hwn yn 2020 a chwblhawyd cam cyntaf y gwaith adeiladu yn gynnar yn 2021 gyda 130 metr o waith. Y cam nesaf yw adeiladu’r llwybr. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod wyneb newydd, lledu a goleuo’r llwybr, yn ogystal â’r dyluniad terfynol ar gyfer y llwybr sy’n weddill (dôl – 330m); a chwblhau trafodaethau tir. Bydd y gwaith adeiladu ar draws y ddôl yn dechrau yn 2022/23.

CYSYLLTIADAU TEITHIO LLESOL CROESI’R AFON WYSG A WYESHAM



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Adeiladu pont Teithio Llesol newydd. Mae Pont Gwy bresennol wedi’i nodi fel rhwystr allweddol ar gyfer teithio llesol rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy. Fe’i nodwyd fel un o’r tri phrif lwybr sydd angen sylw yn Sir Fynwy gan y cyhoedd drwy’r ymgysylltiad Teithio Llesol fel llwybr y mae angen ei wella.
  • Yn 2021, bydd dyluniad manwl y bont Teithio Llesol a chynnal astudiaethau cychwynnol ar lwybrau allweddol i’r bont yn cael eu cwblhau. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.

STRYD MYNWY



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Cynnal astudiaethau dichonoldeb atodol i asesu pa welliannau Teithio Llesol sydd eu hangen ar Stryd Mynwy (gan gynnwys Pont Mynwy).
  • Mae’r trefniadau dros dro presennol ar gyfer Covid a’r ymgynghoriad Teithio Llesol wedi dangos safbwyntiau gwahanol iawn ar Stryd Mynwy. Felly, yn 2021, bydd dealltwriaeth ddyfnach o symudiadau traffig, symudiadau beicio a cherdded yn cael eu cynnal drwy gamerâu ac arolygon atal a gofyn.

CYSWLLT LÔN WILLIAMS FIELD I GANOL Y DRE



Mae’r cynllun hwn (yn amodol ar gyllid) yn ceisio:

  • Cytuno ar well cysylltiadau cerdded a beicio rhwng pwynt dechrau Lôn Williams Field a chanol y dref.
  • Yn 2021, bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys dadansoddiad o rannau o wahanol seilwaith ffyrdd a llwybr oddi ar y ffordd. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys cyfrifiadau traffig, astudiaethau defnydd, asesiadau diogelwch ac arolygon topograffig.

MAE MEYSYDD GWAITH ERAILL AR RADDFA FACH Y CYTUNWYD ARNYNT GAN LYWODRAETH CYMRU YN CYNNWYS:

Prosiect  
1Dichonoldeb llwybr TLl Ysgol Uwchradd Cas-gwent 
2Dichonoldeb Ysgol Gyfun/canolfan hamdden Cil-y-coed
3Ffordd Gorsaf y Fenni; Cyswllt Gorsaf Drenau
4Ymgynghoriad Cyhoeddus Mapiau Rhwydwaith TLl 
5Mwy o Seilwaith Beicio – Lleoliadau Ysgolion Cynradd  
6Gwella arwyddion TLl
7Mwy o Seilwaith Cerdded TLl – Meinciau
8Brynbuga – Dichonoldeb datblygu beicio a cherdded Little Mill 
9Monitro Camerâu TLl – B4245 
10Monitro a Gwerthuso TLl – Cyfrifiadau  
11Mwy o Seilwaith Beicio – Lleoliadau Canol y Dref 
12Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent