Skip to Main Content

Stryd Fawr Cas-gwent –  Dweud Eich Dweud

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio AROLWG yn gofyn am farn trigolion, busnesau ac ymwelwyr sydd yn defnyddio Stryd Fawr Cas-gwent a’r ardal siopa gyfagos a sut y maent am ddefnyddio’r mannau yma yn y dyfodol.  Mae Stryd Fawr Cas-gwent wedi bod ar gau i gerbydau ers Mawrth 2020 ac eithrio mynediad at y mannau parcio i’r anabl ar Stryd y Banc ac unrhyw gyflenwadau sydd yn cael eu danfon yno rhwng 4pm a 10am.  Gwnaed y newid yma er mwyn caniatáu siopwyr i gadw pellter cymdeithasol, i gefnogi masnachu yn yr awyr agored a chefnogi seiclo a cherdded.  Mae sawl barn wahanol wedi ei mynegi am y newidiadau yma ac mae’r Cyngor nawr yn ystyried opsiynau mwy hirdymor fel rhan o gynigion Cynllun Creu Lleoedd a Theithio Llesol Cas-gwent. Hoffai’r Cyngor nawr gasglu barn cynifer o bobl ag sydd yn bosib er mwyn llywio cynlluniau’r dyfodol. 

Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ar ddyfodol y Stryd Fawr. Mae yna sawl opsiwn posib gan gynnwys ail-agor y Stryd Fawr yn llwyr i draffig dwy ffordd ddydd a nos, caniatáu traffig dwy ffordd ar adegau penodol, traffig un ffordd, mynediad cyfyngedig neu sicrhau mai ond cerddwyr sydd yn medru defnyddio’r mannau yma. Bydd angen modelu effaith yr opsiynau yma ar y traffig er mwyn deall unrhyw sgil-effaith  ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach a bydd hyn yn cael ei wneud gan yr ymgynghorwyr  Arup fel rhan o’r astudiaeth a fydd yn ffocysu ar Deithio Llesol ar draws Cas-gwent.   

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Cas-gwent wedi comisiynu’r gwaith o baratoi cynllun gyda help yr ymgynghorwyr Arup a Chris Jones er mwyn ystyried gwelliannau adfywio ar draws y dref, nid yn unig yng nghanol y dref. Bydd canlyniadau’r arolwg yma yn ffurfio rhan o’r broses o werthuso’r opsiynau a datblygu’r gwaith dylunio ar gyfer y Stryd Fawr. Mae’r arolwg yn cau am 12pm ar 15fed Mawrth 2022

Cynlluns