Skip to Main Content

eGylchgronau am ddim ar gyfer aelodau llyfgell

Rydym wedi symud ein cylchgronau digidol o RBditial i ap Libby o Overdrive.

Gallwch bori, benthyca a mwynhau’r un cylchgronau gwych o ZINIO ag roeddech yn eu mwynhau ar ap RBdigital, nawr ar gael drwy ap Libby neu drwy fynd i wefan Overdrive.

Y cyfan rydych ei angen i ddechrau arni yw rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch rhif PIN. Gallwch gofrestru ar-lein i gael cerdyn llyfrgell.

Dechrau arni gyda Libby

O’ch stôr Apiau, gosodwch ap Libby ar eich dyfais Android, Apple neu Windows 10.

Dilynwch y promptiau i ganfod eich llyfrgell  a mewngofnodi gyda rhif eich cerdyn llyfgell a’ch PIN llyfrgell.

Porwch drwy’r casgliad a tenthyca teitl.

Mae’r teitlau a fenthycwyd yn ymddangos dan Shelf, loans. Daw pob teitl i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn libraryadmin@monmouthshire.gov.uk