
Mae’r rhaglen Ysbrydoli i Weithio yn anelu at hybu cyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant i bobl ifanc Sir Fynwy. Bydd unigolion sy’n cymryd rhan yn derbyn cymorth yn addas i’w hanghenion penodol er mwyn gwella eu sgiliau, cynyddu eu hyder/hunan-barch, ac i’w harweini i gyrraedd targedau ymarferol gellir eu cyflawni.
Er mwyn bod yn gymwys am y rhaglen, rhaid bod unigolion yn 16-24 mlwydd oed, yn byw yn Sir Fynwy, ac yn ceisio’n weithredol am gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Mae’r prosiect wedi gweithredu er mis Chwefror 2017 a cheir ei ddarparu yn Sir Fynwy gan Fenter Ieuenctid CSF.
Mae YiW yn rhan o raglen Dwyrain Cymru ehangach wedi’i hariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, y darparir hefyd gan:
Beth allwn ei gynnig:
Cymwysterau a Sgiliau:
- Gwobr BTEC Lefel 1 mewn Addysg yn Ymwneud â Gwaith
- Gwobr BTEC Lefel 1 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol
- Cyrsiau Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch
Cymorth Swydd ac Addysg:
- Help gyda cheisiadau swydd/coleg
- Gweithdai CV
- Diwrnodau blas Coleg a Dysgu Seiliedig ar Waith
Cymorth Bugeiliol 1 wrth 1:
- Help gyda thorri rhwystrau rhag ymgysylltu
- Cyfeiriad at wasanaethau eraill sydd ar gael i bobl ifanc
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth, ebostiwch: employmentskills@monmouthshire.gov.uk, os gwelwch yn dda.
