
Ysbrydoli i Gyflawni (YiG) yw prosiect wedi’i anelu at helpu disgyblion mwyaf bregus Sir Fynwy i aros mewn addysg llawn amser. Mae YiG yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion, gan gynnwys cefnogaeth fugeiliol, mentora un wrth un, a chymwysterau amgen.
Mae’r prosiect wedi bod yn gweithredu ers mis Ebrill 2016 a cheir ei ddarparu yn Sir Fynwy gan Fenter Ieuenctid CSF, Ysgol Tŷ Mounton, a’r Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion. Mae Gyrfaoedd Cymru a Choleg Gwent hefyd yn darparu’r prosiect fel partneriaid rhanbarthol.
Mae YiG yn rhan o raglen Dwyrain Cymru ehangach wedi’i hariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, y darparir hefyd gan:
Buddion
Mae Ysbrydoli i Gyflawni’n bwriadu:
- Sicrhau bod y plant ifanc sydd dan y mwyaf o risg yn cael eu hadnabod a’u cefnogi fel eu bod yn aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac y caiff eu risg ei lleihau. Bydd hyn yn lleihau’r tebygolrwydd o dlodi yn y dyfodol neu o dlodi parhaol ymysg plant ifanc.
- Cyflawni iechyd a lles gwell i bobl ifanc
- Sefydlu ymagwedd gwaith a dyheadau uwch i bobl ifanc
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth, ebostiwch: employmentskills@monmouthshire.gov.uk, os gwelwch yn dda.
