Menter ryngwladol yw Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (WEF) sy’n cyflwyno entrepreneuriaeth i bobl ifanc ledled y byd.
Am WEF 2019, gwahoddon ni ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 o’r pedair ysgol gyfun yn Sir Fynwy i Neuadd y Sir, Brynbuga. Tra roeddent yna, clywon nhw oddi wrth entrepreneuriaid ysbrydoledig o’r ardal, oedd hefyd wedi darparu gweithdai personol lle rhannon nhw fewnwelediad i’r hyn sydd ei angen i ddod yn fentrwr ac i fod yn llwyddiannus.