Am Wythnos Prentisiaeth Cymru 2020, rydyn ni wedi siarad ag arweinwyr tîm, rheolwyr a phrentisiaid o Gyngor Sir Fynwy i edrych ar fanteision prentisiaethau i weithwyr yn ogystal â chyflogwyr.

Mae’r Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol yn dathlu’r effaith bositif gall prentisiaethau eu cael ar unigolion, busnesau a’r economi. Nod y digwyddiad hwn yw ymgysylltu â chyflogwyr a hybu manteision cymryd a chefnogi prentisiaid yn y gweithle yn ogystal â thynnu sylw at y dalent a’r sgiliau sydd gan brentisiaid i fusnesau a’r economi ehangach.

Diwrnod 1: Cwrddwch â’r Prentisiaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd

I ddechrau ein dathliadau Wythnos Prentisiaid 2020, croesawon ni dri brentis Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd i mewn i’r awdurdod. Y prentisiaid oedd y cyntaf i ymuno â’n menter ‘Prentisiaethau mewn Gofal’ newydd.

Gallwch ddarganfod mwy am ein prentisiaid newydd yma.

Diwrnod 2: Gweledigaeth Cydlynydd y PGI

Ar ddiwrnod 2, clywon ni o Gareth James, Cydlynydd PGI yn gweithio o fewn y tîm Cyflogaeth a Sgiliau. Siaradodd ef am fanteision prentisiaethau i weithwyr yn ogystal â chyflogwyr, ac am ei brofiadau hyd yn hyn yn y rôl.

Diwrnod 3: Kyle Hughes – Prentis TG

Am ddiwrnod 3 o Wythnos Prentisiaid 2020, clywon ni o Kyle Hughes, Prentis TG yn gweithio ar hyn o bryd i’r Tîm Cyflogaeth a Sgiliau.

Diwrnod 4: Adlewyrchiad Prentis a Rheolwr

I ddechrau diwrnod 4, clywon ni o Danielle Davies, sy’n gweithio ar hyn o bryd fel Prentis Cefnogi Systemau Ariannol gyda’r tîm Credydwyr. Gallwch ddarllen y stori lawn yma.

Wedyn, clywon ni o reolwr Danielle’s , Damien Nash, am ei feddyliau ynglŷn â datblygiad Danielle. Gallwch ddarllen y stori lawn yma.

Diwrnod 5: Geiriau o’r Prif Swyddog Peter Davies

I orffen ein dathliadau Wythnos Prentisiaid 2020, siaradon ni â Peter Davies, Prif Swyddog gyda Chyngor Sir Fynwy ynglŷn â phwysigrwydd prentisiaethau a’r cyfleoedd gwych maent yn eu cynnig. Gallwch ddarllen stori lawn Peter yma.

Digwyddiadau o Flynyddoedd Cynt

Cliciwch ar y dolenni isod i weld sut rydym wedi dathlu’r digwyddiad mewn blynyddoedd cynt:

2019

2018