Wythnos Prentisiaeth Cymru yw hi a byddwn yn dathlu gyda straeon prentisiaid cyfredol Cyngor Sir Fynwy pob diwrnod yr wythnos hon…

Mae’r Wythnos Prentisiaeth yn dathlu’r effaith bositif bod gan Brentisiaid ar unigolion, busnesau a’r economi. Nod yr Wythnos Prentisiaid yw ymgysylltu â chyflogwyr a hybu’r manteision o gymryd a chefnogi prentisiaid yn y gweithle yn ogystal â thynnu sylw at y dalent a’r sgiliau sydd gan prentisiaid i fusnesau a’r economi ehangach.

#AWWales Fidio
Diwrnod 5: Catherine Morgan-Owens

Cwrddwch â Catherine, Cynorthwyydd Dysgu Prentis yn Ysgol Gynradd Dewstow

Mae Catherine yn gweithio tuag at rôl cynorthwyydd dysgu lefel 3 mewn ysgol gynradd.

‘Dewisais brentisiaeth er mwyn ennill lefel uwch o addysg yn ogystal ag ennill profiad bywyd a gwaith gwerthfawr. Dechreuais wirfoddoli mewn ysgol gynradd fel bod modd i fi ennill profiad a hyder. Roeddwn yn gwybod syth ymlaen taw hon oedd yr yrfa roeddwn eisiau dilyn. Dechreuais ymchwilio sut i’w gwneud a phenderfynais ei fod yn gwneud y mwyaf o synnwyr i mi ddysgu yn y lleoliad dwi’n caru. Gwirfoddolais yn yr ysgol gynradd am 2 fis pan gynigion nhw’r brentisiaeth i fi. Roedd hyn yn berffaith i fi!

Mae gweithio i Gyngor Sir Fynwy’n rhoi pleser i fi’n bersonol oherwydd fy mod wedi fy magu yma ac roeddwn hyd yn oed wedi fy ngosod mewn gofal yr awdurdod lleol am gyfnod fel plentyn, ac felly cafodd fy lleoliadau a chefnogaeth eu hariannu gan y cyngor. Dwi’n teimlo eu bod wedi buddsoddi llawer i mewn i’m dyfodol a nawr dwi’n cefnogi plant yn y sir – dwi’n ei ystyried fel dychwelwyd peth o’r gofal a chefnogaeth dwi wedi derbyn.

Dwi wedi dysgu cymaint. Dwi wedi bod ar gyrsiau a hyfforddiant sydd wedi bod yn ddefnyddiol i’w gweithredu yn yr ystafell ddosbarth ac yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Dwi wedi dysgu cymaint am fy hun. Dwi nawr yn gwybod yr hyn dwi eisiau gwneud gyda fy mywyd – dwi eisiau parhau i weithio mewn addysg.

Mewn 5 mlynedd, hoffwn fod yn hyfforddi i ddod yn athrawes, ac yn ddelfrydol yn cynllunio i fynd i mewn i addysgu plant ag anghenion dysgu ychwanegol, oherwydd hwn yw fy niddordeb.’

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Wilce a’r tîm ym Menter Ieuenctid Mynwy – galwch: 01633 644912 neu 07836 262102.

Dilynwch y tîm ar Twitter: @MonmouthshireYE

Diwrnod 4: Tegan Bryant

Cwrddwch â Tegan Bryant, Prentis Gweinyddiaeth Busnes yn Ysgol Gynradd Dewstow



‘Dewisais weithio fel prentis gan fy mod yn meddwl buasai cymorth ac arweiniad fy nghyfoedion yn ddefnyddiol iawn. Roeddwn eisiau ennill sgiliau bywyd go iawn yn y gweithle. Roeddwn wastad yn meddwl buasai’n helpu â phethau megis cryfhau fy CV ac yn fy helpu i ddatblygu. Mae hefyd yn golygu fy mod yn ennill cyflog yn barhaol tra fy mod yn dysgu.

Mae pob dydd yn hollol wahanol yn y swyddfa. Mae ‘na wastad cymaint o bethau gwahanol i’w gwneud. O dasgau dydd i ddydd megis ateb y ffôn ac ateb/danfon ebyst, efallai bod rhaid i fi ysgrifennu llythyrau ar ddiwrnodau eraill.

Fy hoff agwedd o weithio i Gyngor Sir Fynwy yw’r buddion da megis cyfleoedd i fynd ar gyrsiau hyfforddi ac i ddysgu sgiliau newydd.

Mewn 5 mlynedd, hoffwn feddwl fy mod dal yn gweithio mewn awyrgylch swyddfa o ryw fath.’

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Wilce a’r tîm ym Menter Ieuenctid Mynwy – galwch: 01633 644912 neu 07836 262102

Dilynwch y tîm ar Twitter: @MonmouthshireYE

Fidio: John Dempsey

Diwrnod 3: Mike Jones

Cwrddwch â Mike Jones, Prentis Addysg Awyr Agored gydag Awyr Agored Gwent ym Mharc Hilston

Mae Mike Jones, sy’n 18 mlwydd oed, yn gweithio ym Mharc Hilston gydag Awyr Agored Gwent. ‘Dewisais brentisiaeth gan fy mod yn dwli ar yr awyr agored, a dwi’n dwli gweithio â phlant a phobl ifanc. Roeddwn yn athro nofio, ac ers i mi ddechrau roeddwn yn gwybod taw’r swydd gorau i mi buasai un lle byddwn yn gallu gweithio â phlant a phobl ifanc.

Dwi’n helpu gyda’r amrywiaeth o grwpiau sy’n dod i Barc Hilston pan fyddant yn gwneud gweithgareddau megis rhaffau uchel, canŵio, cerdded mynyddoedd, ogofa, saethyddiaeth…gall y rhestr mynd ymlaen ac ymlaen. Ond dwi’n gobeithio arwain fy ngrwpiau fy hun yn fuan ac ennill cymwysterau hyfforddi, megis arweinyddiaeth beicio mynydd lefel 2. Unwaith i fi ennill y cymwysterau hyn, byddaf un cam yn agosach at ddechrau arwain fy ngrwpiau fy hun.

Dwi’n cael pleser mawr yn gweld y plant yn mynd y tu hwnt i beth sy’n gysurus iddynt ac yn gwthio eu hunain i gyflawni pethau newydd. Dwi wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd, mae fy hyder yn tyfu trwy’r amser a dwi methu aros i ddechrau arwain grwpiau ar fy mhen fy hun.

Mewn 5 mlynedd, dwi’n gobeithio bod yn hyfforddwr awyr agored llawn amser. Buaswn yn dwli parhau i weithio ym Mharc Hilston neu rhywle yn y byd.’

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Wilce a’r tîm ym Menter Ieuenctid Mynwy – galwch: 01633 644912 neu 07836 262102

Dilynwch y tîm ar Twitter: @MonmouthshireYE

Diwrnod 2: Amy Poskitt-Jones

Cwrddwch ag Amy Poskitt-Jones, Cynorthwyydd Dysgu Prentis gyda ChSF yn Ysgol Gynradd Dewstow.

Mae Tîm Menter Ieuenctid Sir Fynwy yn helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn. Maent wedi helpu Amy i gwrdd â’i breuddwyd o weithio gyda phlant – dyma stori Amy.

Amy Poskitt-Jones ydw i a dwi’n 17 mlwydd oed.

Cynorthwyydd dysgu lefel 2 ydw i yn Ysgol Gynradd Dewstow.

Fy hoff agwedd o weithio i Gyngor Sir Fynwy yw fy mod yn gallu helpu plant ifanc i wneud eu gorau yng nghyfnodau cynnar eu bywydau ac ym mhob agwedd o’u gwaith.

Dwi’n astudio gofal plant ar hyn o bryd yn ogystal â gweithio yn yr ysgol.

Fy niwrnod cyffredin yn y gwaith yw helpu â thasgau megis llenwi poteli dŵr y plant, cymryd y gofrestr cinio a’u setlo nhw am y diwrnod. Fy nghyfrifoldeb yw sicrhau bod y plant yn gwrando ar y cyfarwyddiadau sy’n cael eu rhoi gan yr athro.

Ers dechrau fy mhrentisiaeth, dwi wedi dysgu sut i gadw’r plant dwi’n gweithio â’n ddiogel ac yn saff. Dwi’n dwli gweld y plant yn datblygu.

Mewn 5 mlynedd, hoffwn fod yn gynorthwyydd dysgu cwbl gymwys a pharhau i helpu ac i gefnogi plant.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Wilce a’r tîm ym Menter Ieuenctid Mynwy – galwch: 01633 644912 neu 07836 262102

Dilynwch y tîm ar Twitter: @MonmouthshireYE

Diwrnod 2: Keira Pitt

Cwrddwch â Keira Pitt, Prentis Gweinyddu Busnes gyda’r Tîm Menter Ieuenctid

Mae Keira Pitt yn 19 ac yn gweithio i’r tîm Menter Ieuenctid ar y rhaglenni Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio ac yn cwblhau prentisiaeth gyda Chyngor Sir Fynwy yng Ngweinyddiaeth Busnes Lefel 3.

Mae Keira yn gweithio mewn tîm sy’n ysbrydoli ac yn annog plant ifanc i dychwelyd i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant – mae hi’n ysbrydoliaeth i blant ifanc eraill.

‘Ar ôl gadael y coleg yn 2017, doeddwn i ddim yn teimlo’n barod am y brifysgol. Roeddwn eisiau parhau i hyfforddi ac i ddatblygu sgiliau, i ennill incwm ac i ddod yn fwy annibynnol. Mae fy mhrentisiaeth wedi cynnig cyfleoedd i wneud pob un o’r pethau hyn.

Ers dechrau fy mhrentisiaeth, mae fy hyder wedi tyfu a dwi wedi dysgu sut i weithio fel rhan o dîm prysur ac i dderbyn cyfrifoldebau.

Fy llwyddiant mwyaf yn ystod fy rôl hyd yn hyn yw datblygu fy sgiliau cyfathrebu a hyder. Dwi’n siarad â phobl o bob oedran mewn amryw o sefyllfaoedd pob diwrnod – mae fy hyder wedi tyfu yn y gwaith yn ogystal â thu fas i’r gwaith! Fy hoff elfen o weithio i GSF yw’r cymorth dwi wedi derbyn.

Sain siŵr ble fyddaf mewn 5 mlynedd ond dwi’n bositif bydd fy rôl yn fy ngalluogi i ehangu fy sgiliau i gyd ac i weithio tuag at ddyheadau uwch yn y dyfodol cyfagos.’

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Wilce a’r tîm ym Menter Ieuenctid Mynwy – galwch: 01633 644912 neu 07836 262102

Dilynwch y tîm ar Twitter: @MonmouthshireYE

Diwrnod 1: Connor Leacock

Cwrddwch â Connor Leacock, Prentis Gweinyddu Busnes gyda’r Tîm Datblygu Cymuned a Phartneriaeth

Dewisais y brentisiaeth hon gan fy mod yn credu y buasai’n gyfle da dros ben oherwydd fy mod yn gwybod bod y cyngor yn wych i weithio amdanynt a’r ffaith y buasai gen i’r cyfle i ennill arian ac i wneud bywoliaeth yn ogystal â dysgu a gwella fy sgiliau.

Yn ôl yr hyn dwi’n ei gwneud pob dydd, sain meddwl bod gen i ddiwrnod tebygol i ddweud y gwir, gan fy mod wedi gwneud rhywbeth gwahanol bron pob dydd. Er enghraifft, dwi wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd i gymryd cofnodion, dwi wedi mynd mas i’r gymuned i ofyn i bobl ynglŷn â’n cynlluniau fel cyngor i wella’r sir, dwi hefyd wedi helpu trefnu gweithdai a fforymau yn ogystal â gwneud y gwaith gweinyddol cyffredin a threfnu cyfarfodydd i fy nhîm.

Roedd cael swydd flaenorol wedi fy helpu i ddysgu ychydig o sgiliau gwaith a bywyd, ond wrth symud o fy swydd flaenorol i’r un hon, dwi wedi dysgu defnyddio nifer o sgiliau allweddol gwahanol bod dim modd i fi eu defnyddio yn fy ngwaith blaenorol. Er enghraifft, mae fy sgiliau T.G.Ch yn cael eu defnyddio llawer mwy a thrwy hyn dwi’n gwella’r sgiliau yma mwy. Gwaith tîm yw esiampl dda arall o sgiliau fy mod heb o reidrwydd wedi dysgu ond wedi gwella.

Os oedd rhaid i mi ddewis fy llwyddiant mwyaf yn fy rôl hyd yn hyn, er nad fy llwyddiant mwyaf yw hi o reidrwydd ond un o’r rolau mwyaf dwi wedi cymryd, buasai helpu trefnu fforwm ‘Siaradwch â Ni’ gydag aelodau o’r cyhoedd, lle fy rôl oedd trefnu’r drafnidiaeth a’r bwyd ac, er ein bod wedi bwrw ychydig o drafferthion ar y daith, dwi’n credu taw llwyddiant oedd y diwrnod ar y cyfan.

Fy hoff elfen o weithio yma yw’r ffaith bod pawb mor gefnogol a’r ffaith bod, os oedd gen i broblem, dwi’n credu y buasai pawb yn gofyn a oedd unrhyw ffordd y gallent helpu yn lle fy ngadael i frwydro ar fy mhen fy hun.

Os oedd rhaid i mi ddweud ble fuaswn yn gweld fy hun mewn 5 mlynedd, buaswn yn dweud yn syml fy mod yn gobeithio parhau i wella fy sgiliau ac i adeiladu fy rhwydwaith a chysylltiadau o fewn y cyngor.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Wilce a’r tîm ym Menter Ieuenctid Mynwy – galwch: 01633 644912 neu 07836 262102

Dilynwch y tîm ar Twitter: @MonmouthshireYE