Mae Prentisiaid, Graddedigion ac Interniaid (PGI) yn ased i unrhyw sefydliad a gallent ddod â manteision sylweddol i’r busnes a’r gweithlu cyfredol. Mae’r Strategaeth PGI wedi’i gosod i helpu datblygu a chefnogi mwy o brentisiaethau, swyddi graddedig a chyfleoedd interniaeth ledled yr awdurdod lleol.

Gareth James yw’r Cydlynydd Prentisiaid, Graddedigion ac Interniaid (PGI), sy’n gyfrifol am fonitro a chefnogi darpariaeth y Strategaeth PGI a’r cynllun gweithredu.

Mae angen eich help arnom ni i adnabod mwy o feysydd gwasanaeth lle gallwn gynnig profiad a chyfleoedd gwerthfawr i prentisiaid.

Rydym yn gobeithio:

  • Helpu adnabod a chreu cyfleoedd prentisiaeth, graddedig ac intern ar draws y sefydliad er mwyn cefnogi anghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  • Sicrhau eu bod yn derbyn cymorth, a bod ganddynt brofiad positif mewn awyrgylch gwaith da.
  • Cynyddu hygyrchedd cyfleoedd hyfforddi lefel uchel a mwy amrywiol i weithwyr newydd a chyfredol a hybu gwerth cyfleoedd recriwtio prentisiaeth, graddedig ac intern o fewn yr awdurdod lleol yn ogystal â gwella hygyrchedd, cydraddoldeb cyffredinol a chydraddoldeb cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal.

Mae’r amrywiaeth o rolau prentisiaeth o fewn y cyngor ar hyn o bryd yn isel ac yn tueddu bod ym meysydd gweinyddiaeth fusnes, technoleg wybodaeth a chynorthwywyr dysgu. Mae angen i ni greu cyfleoedd i sicrhau ystod fwy eang o gyfleoedd.

Os oes gan unrhyw reolwyr gwasanaeth gyfleoedd hoffent eu trafod, danfonwch ebost i Gareth, os gwelwch yn dda: garethjames@monmouthshire.gov.uk

Gwelwch y dogfennau isod am arweiniad ynglŷn â sut gaiff y strategaeth ei gweithredu, os gwelwch yn dda:

Pecyn Cymorth PGI

Strategaeth Prentisiaid, Graddedigion ac Interniaid 2019-22

Pob blwyddyn, fel rhan o Wythnos Prentisiaid Cymru, rydym ni fel cyngor yn cymryd rhan yn dathlu’r effaith bositif y mae prentisiaethau’n eu cael ar unigolion, busnesau a’r economi. Gallwch weld sut rydym wedi dathlu yma.