#BalanceForBetter

Nodwyd Diwrnod Menywod Cenedlaethol gan Gyngor Sir Fynwy ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth gyda digwyddiad yn Ysgol Cil-y-coed i ddisgyblion o bob grŵp blynyddol.

Mynychodd amrywiaeth o siaradwyr Ysgol Cil-y-coed yn dilyn apêl ar Facebook yn gofyn i bobl leol i enwebu menywod sy’n eu hysbrydoli – derbyniwyd 101 o sylwadau gyda rhai esiamplau bendigedig o’r gwahaniaeth bod menywod yn ei wneud yn eu cymunedau pob dydd.

Clywodd disgyblion oddi wrth amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig, gan gynnwys Chloe-Beth Morgan-James, Irene Cameron, Andrea Rodley ac Elaine Theaker.

Thema’r digwyddiad o amgylch y byd oedd #BalanceForBetter:

“Mae’r dyfodol yn gyffrous. Gawn ni adeiladu byd sydd â chydbwysedd o ran rhyw.

Mae gan bawb rhan i’w chwarae – pob amser, ymhobman.

O actifiaeth llawr gwlad i weithrediad byd-eang, rydym yn dechrau cyfnod cyffroes mewn hanes lle mae’r byd yn disgwyl cydbwysedd. Rydym yn sylwi ei absenoldeb ac yn dathlu ei bresenoldeb.

Mae cydbwysedd yn gyrru byd gwaith gwell. Gawn ni i gyd helpu creu#BalanceforBetter.”

Darganfyddwch sut ddathlon ni Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn 2018 yma

Darganfyddwch sut ddathlon ni Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn 2017 yma