#PressForProgress

Nodwyd Diwrnod Menywod Cenedlaethol gan Gyngor Sir Fynwy ar ddydd Mercher yr 8fed o Fawrth gyda digwyddiad yn Ysgol Cas-gwent ar gyfer disgyblion o bob grŵp blynyddol.

Clywodd disgyblion oddi wrth amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig, gan gynnwys Sara Jones, Poppy Harris, Maryam Farhanah, a Chloe-Beth Morgan. Cymrodd disgyblion hefyd rhan mewn gweithdy ynglgŷn â materion a wynebir gan fenywod, a’r datblygiad gellir ei wneud dros y 100 mlynedd nesaf.

Thema’r digwyddiad o amgylch y byd oedd #PressForProgress:

“Nawr, mwy nag erioed, mae yna alwad cryf i weithredu i wthio ymlaen ac i symud cydraddoldeb rhywiol ymlaen. Galwad cryf i#PressforProgress. Galwad cryf i gymell ac i uno ffrindiau, cyd-weithwyr a holl gymunedau i feddwl, i weithredu ac i fod yn gynhwysol o ran rhyw.

Nid yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn benodol i wlad, grŵp neu sefydliad. Mae’r diwrnod yn perthyn i bob grŵp ar y cyd ymhobman. Felly, gyda’n gilydd, gawn ni fod yn feiddgar yn cyflymu cydraddoldeb rhywiol. Ar y Cyd, gawn ni i gyd Gwthio er mwyn Symud Ymlaen.”

Darganfyddwch sut ddathlon ni Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn 2017 yma