#BeBoldForChange
Nodwyd Diwrnod Rhyngwladol Menywod gan Gyngor Sir Fynwy ar ddydd Mercher yr 8fed o Fawrth gyda digwyddiad yn Ysgol Harri’r Wythfed yn Y Fenni ar gyfer merched o flwyddyn 8. Roedd y sesiwn, a enwir ‘Be Bold for Change’, yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod lleol er mwyn ysbrydoli a grymuso disgyblion i feddwl am eu camau nesaf mewn bywyd.
Clywodd disgyblion oddi wrth dwy fenyw busnes lleol: Vicki Spencer-Francis, Rheolwr-gyfarwyddwr o Cowshed, sef asiantaeth gyfathrebu wedi’i lleoli yng Nghaerdydd; a Delyth Harris, Rheolwr-gyfarwyddwr o Gwalia Consulting Cyf. Rhannodd Vicki a Delyth esiamplau gwahanol iawn o sut roeddent wedi bod yn feiddgar yn eu bywydau, oedd maes o law wedi cael effaith enfawr ar eu gyrfaoedd.