
Prosiect yw Compass wedi’i hariannu trwy’r Grant Cefnogi Ieuenctid. Eu nod yw atal digartrefedd ieuenctid yn Sir Fynwy trwy gynnig cefnogaeth, arweiniad a chyfeiriad i unigolion 11-25 mlwydd oed trwy:
- Atal digartrefedd
- Trosglwyddo i Gartrefi
- Cymorth cyn tenantiaeth
- Sgiliau byw’n annibynnol
- Rheoli cyllid
- Llesiant personol ac emosiynol
- Mentora
- Cefnogaeth gyflogaeth
Mae’r prosiect yn cynnig cymorth i blant ifanc bregus sy’n bennu lan mewn sefyllfaoedd anodd efallai bydd yn risg iddynt, yn enwedig o ddod yn ddigartref yn y dyfodol , neu sy’n ddigartref ar hyn o bryd.
Trwy weithio gydag a chyfeirio at asiantaethau eraill, mae modd i’r rhaglen galluogi mynediad er mwyn datblygu a chynnal perthnasau teuluol a pherthnasau eraill positif, yn ogystal â chyfeirio’r rheini sydd angen cymorth meddyliol ac emosiynol er mwyn cefnogi’r bobl ifanc i mewn i lety dibynadwy.
Mae gweithwyr Digartrefedd Ieuenctid y rhaglen ar gael mewn Ysgolion Uwchradd, Hosteli, Canolfannau Swyddi a Hybiau/Llyfrgelloedd Cymunedol ledled Sir Fynwy.
Yn syml, cysylltwch â’r rhaglen yma i wneud apwyntiad neu gofynnwch yn unrhyw un o’r lleoliadau uchod am fwy o wybodaeth.