Cymunedau am Waith+ (CaW+) yw rhaglen wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n bwriadu cefnogi pobl i mewn i gyflogaeth gynaladwy. Mae’r prosiect yn galluogi pobl sy’n cymryd rhan i ennill nifer o gymwysterau, i ddatblygu sgiliau newydd ac i gynnig lleoliadau gwaith o bwys, yn ogystal â chynnig mentora sy’n berthnasol i’r angen penodol i ddatblygu hyder, am fwy o addysg ac am sgiliau cyflogadwyedd.

Mae ein tîm o Fentoriaid Cyflogaeth Gymunedol yn gweithio ledled Sir Fynwy i gynnig cymorth lleol hygyrch.

I gofrestru i gael cymorth gan Cymunedau am Waith a Mwy cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect, cysylltwch â cfw@monmouthshire.gov.uk, os gwelwch yn dda.

Yn Gyflogedig?

Mae Sgiliau@Gweithle yn cefnogi pobl sydd mewn cyflogaeth neu hunangyflogaeth ar hyn o bryd i gael mynediad at amrywiaeth o gymwysterau achrededig am ddim *, arweiniad 1 i 1 a chymorth cyflogaeth.