A ydych chi’n byw neu’n gweithio yn Sir Fynwy? A ydych yn chwilio am waith, yn dymuno newid gyrfa neu wella eich sgiliau? Mae’r Tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn cynnig ystod o raglenni Cymorth Cyflogadwyedd a Chyrsiau Achrededig er mwyn eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Mae’r cyrsiau yr ydym yn cynnig yn rhad am ddim os ydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau cyflogadwyedd – Cymunedau am Waith+, Ysbrydoli i Weithio neu Sgiliau@Gweithle. Rydych yn medru cysylltu gyda ni yma er mwyn trafod eich cymhwystra. Fodd bynnag, os nad ydych yn gymwys, bydd y cwrs yn costio £60.
Mae’r holl gyrsiau sydd yn cael eu darparu gan berson yn gyrsiau undydd, sydd yn dechrau am 09:30am ac yn medru parhau am chwe awr. Mae cyfanswm yr amser cymhwyso ar gyfer cyrsiau ar-lein yn medru amrywio a’n ddibynnol ar y dysgwr.
Cliciwch ar deitl pob un o’r cyrsiau isod am fwy o wybodaeth.
Cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb os gwelwch yn dda os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o’n cyrsiau.
Cliciwch ar y ddolen islaw i gael mwy o wybodaeth ar ddyddiadau cyrsiau.
Rheoli Gwrthdaro Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sydd angen hyfforddiant yn rheoli gwrthdaro. Mae’n briodol ar gyfer ystod o sectorau ac yn addas i unrhyw un sydd â rôl yn delio gyda chwsmeriaid, yn delio gyda defnyddwyr gwasanaeth neu’r cyhoedd.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar isafswm o lefel 2 mewn llythrennedd.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ddysgu ar-lein, mae’r cyfanswm amser ar gyfer cymhwyso yn dibynnu ar y dysgwr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad gyda chwestiynau amlddewis
- Rhaid i gyfranogwyr sicrhau sgôr o leiaf 20 o 30.
- Bydd yr arholiad yn parhau am awr.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut y mae modd defnyddio cyfathrebu er mwyn datrys problemau a lleihau’r gwrthdaro.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar ymatebion dynol mewn sefyllfaoedd o wrthdaro.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i asesu a lleihau risgiau wrth ddatrys gwrthdaro.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gyfathrebu yn effeithiol a’n Bydd cyfranogwyr yn datblygu eu gwybodaeth o arferion da i’w defnyddio er mwyn delio gyda sefyllfaoedd o wrthdaro.
Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2
Nod y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer swyddi yn y diwydiant gwasanaeth cwsmer. Mae’r cymhwyster yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i ddysgwyr i weithio yn y sector.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar Lefel 1 mewn Saesneg cyn cofrestru ar y cwrs.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
- Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ddysgu ar-lein, mae’r cyfanswm amser ar gyfer cymhwyso yn dibynnu ar y dysgwr.
- Bydd dysgu yn y dosbarth yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad gyda chwestiynau amlddewis. Rhaid i gyfranogwyr gwblhau 30 cwestiwn o fewn un awr.
- Bydd cangen sicrhau marc o 66% er mwyn llwyddo yn yr arholiad.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn medru disgrifio egwyddorion gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys medru adnabod pwrpas gwasanaeth cwsmer, yn disgrifio sut y mae gwasanaeth cwsmer yn effeithio ar lwyddiant y mudiad a’n disgrifio mathau gwahanol o gwsmeriaid mewn mudiad.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall sut y mae anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid yn ffurfio. Bydd hyn yn cynnwys disgrifio pwrpas y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig, disgrifio sut y mae disgwyliadau’r cwsmer yn cael eu ffurfio a’r berthynas rhwng boddhad y cwsmer a disgwyliadau’r cwsmer.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall yr egwyddorion o ymateb i broblemau neu gwynion cwsmeriaid.
Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unrhyw un sydd yn chwarae rhan yn rheoli diogelwch tân ac sydd mewn maes lle y mae yna risg posib o dân.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar lefel 1 mewn Saesneg.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ddysgu yn y dosbarth, bydd yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad gydag 20 cwestiwn amlddewis a rhaid cwblhau hyn o fewn 45 munud.
- Bydd rhaid i ddysgwyr llwyddiannus ddangos eu bod yn gwybod am gynnwys yr uned ac ateb 12 cwestiwn neu fwy yn gywir er mwyn llwyddo.
- This qualification is graded as Pass oBydd unigolion naill ai’n Pasio neu’n Methu’r arholiad.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig gyda thân yn y gweithle.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall sut y mae’r risg o dân yn cael ei reoli yn y gweithle.
Diogelwch Bwyd Lefel 2 (Arlwyo)
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y sawl sydd yn gweithio mewn amgylchedd sydd yn gyfrifol am drin bwyd. Dyma’r cymhwyster diogelwch bwyd sydd yn cael ei ffafrio gan swyddogion gorfodaeth ac archwilwyr.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar lefel 1 mewn Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfatebol.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
- O ran dysgu ar-lein, mae’r cyfanswm amser ar gyfer cymhwyso yn dibynnu ar y dysgwr.
- Bydd dysgu yn y dosbarth yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad amlddewis. Rhaid ateb 20 cwestiwn o fewn 45 munud.
- Bydd rhaid i ddysgwyr llwyddiannus sicrhau marc o 66% (13/20) er mwyn llwyddo i basio’r arholiad. Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei farcio fel Pasio neu Fethu.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall pwysigrwydd gweithdrefnau diogelwch bwyd a chydymffurfio gyda’r gyfraith.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall peryglon meicrobiolegol, cemegol, corfforol ac alergenig a sut i’w rheoli.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gydymffurfio gyda rheoli tymheredd a chyfnewid stoc.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall pwysigrwydd hylendid da a’n atal halogi, gan gynnwys golchi dwylo, dillad diogelwch, cytiau a’n rhoi gwybod am salwch.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i lanhau llefydd a chyfarpar.
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gadw cyfarpar yn ddiogel.
- Bydd cyfranogwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gael gwared ar wastraff yn ddiogel.
- Participants will develop their knowledBydd cyfranogwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o reoli plâu.
Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer yr unigolion sydd angen dealltwriaeth sylfaenol o arferion iechyd a diogelwch sydd yn hanfodol yn y gweithle. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sydd mynd i’r gweithle am y tro cyntaf neu am ddatblygu mewn mudiad.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
- O ran dysgu ar-lein, mae’r cyfanswm amser ar gyfer cymhwyso yn dibynnu ar y dysgwr.
- Bydd dysgu yn y dosbarth yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad aml-ddewis. Rhaid ateb 20 cwestiwn o fewn 45 munud.
- Bydd dysgwyr llwyddiannus yn gorfod arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o faes llafur y cymhwyster a’n sicrhau isafswm o sicrhau marc o 60%.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall dyletswyddau a chyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall manteision arferion gweithio iechyd a diogelwch diogel yn y gweithle.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall y broses o asesu risgiau.
- Bydd cyfranogwyr yn medru adnabod peryglon a’r hyn sydd angen er mwyn eu rheoli yn y gweithle.
- Bydd cyfranogwyr yn medru gwybod sut i ymateb i ddamweiniau, digwyddiadau sydd bron yn ddamweiniau a salwch yn y gweithle.
- Bydd cyfranogwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o weithdrefnau Brys.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall y pwysigrwydd o gofnodi damweiniau.
Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl Lefel 2
Mae modd i unigolion sydd yn barod i ddechrau yn y gweithle neu am ddatblygu eu dealltwriaeth o’r maes hwn i gofrestru ar gyfer y cwrs.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar Lefel 1 mewn llythrennedd a rhifedd.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
Gan fod y cwrs yn cael ei ddysgu yn y dosbarth, bydd yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad aml-ddewis.
- Bydd yr arholiad ar gael fel rhan o’r e-asesiad Highfield Works a ffurflenni papur.
- Rhaid ateb 15 cwestiwn o fewn 30 munud.
- Bydd dysgwyr llwyddiannus yn gorfod arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o faes llafur y cymhwyster a’n sicrhau isafswm o sicrhau marc o 60% (9/15).
- Bydd unigolion naill ai’n Pasio neu’n Methu yr arholiad.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall cysyniadau iechyd meddwl a lles.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall sut y mae afiechyd meddwl yn effeithio ar unigolion.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall y continwwm iechyd meddwl.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall ffyrdd i hunan-reoli eu lles.
Deiliad Trwydded Personol Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sydd yn gweithio, neu’n paratoi i weithio, mewn diwydiant sydd yn cynnwys gwerthu alcohol. Dylai unrhyw un sydd yn dymuno gwerth neu awdurdodi gwerthiant alcohol ar safleoedd wedi’u trwyddedu feddu ar drwydded bersonol.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn.
- I’r sawl sydd o dan 18 mlwydd oed, nid oes modd gwneud cais am Drwydded Bersonol tan fod yr unigolyn yn 18 mlwydd oed.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar Lefel 1 mewn llythrennedd a rhifedd.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
Gan fod y cwrs yn cael ei ddysgu yn y dosbarth, bydd yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad amlddewis.
- Bydd yr arholiad ar gyfer y cymhwyster yn cynnwys 40 cwestiwn a rhaid eu hateb o fewn awr.
- Bydd dysgwyr llwyddiannus yn gorfod arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o faes llafur y cymhwyster a’n sicrhau marc isafswm o 70%.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn dysgu natur, pwrpas a chyfnod dilysrwydd sydd i’r drwydded bersonol.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall y broses gais a’r dyletswyddau cyfreithiol pan yn gwneud cais am drwydded bersonol.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall dyletswyddau cyfreithiol sydd gan ddeiliad trwydded bersonol.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall rôl, cyfrifoldebau a swyddogaethau yr awdurdodau trwyddedi.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall amcanion trwyddedi a’r pwysigrwydd o ran partneriaethau er mwyn hyrwyddo’r amcanion yma.
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall natur a chryfder alcohol a’i effaith ar y corff.
Asesu Risg Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei ddylunio i ddarparu ymwybyddiaeth i ddysgwyr o’r buddion a ddaw o gynnal asesiad risg mewn unrhyw awyrgylch.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
- O ran dysgu ar-lein, mae’r cyfanswm amser ar gyfer cymhwyso yn dibynnu ar y dysgwr.
- Bydd dysgu yn y dosbarth yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu drwy gyfrwng arholiad aml-ddewis.
- Bydd yr arholiad yn cynnwys 15 cwestiwn a bydd rhaid eu hateb o fewn 30 munud.
- Bydd dysgwyr llwyddiannus yn gorfod arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o faes llafur y cymhwyster a’n sicrhau isafswm o sicrhau marc o 60%.
- Bydd unigolion naill ai’n Pasio neu’n Methu yr arholiad.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd y dysgwr yn medru deall pam fod asesiadau risg yn angenrheidiol er mwyn cynnal a gwella safonau iechyd a diogelwch yn y gweithle.
- Bydd y dysgwr yn medru deall egwyddorion asesu risg.
Diogelu Plant a Phobl Ifanc Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gweithio neu’n dymuno gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys swyddog gwirfoddoli neu ddi-dâl.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn.
- Rydym yn cynghori bod cyfranogwyr yn meddu ar Lefel 1 mewn llythrennedd a rhifedd.
- Rhaid medru darparu dogfen yn cadarnhau eich hunaniaeth.
Hyd y cwrs
Gan fod y cwrs yn cael ei ddysgu yn y dosbarth, bydd yn gwrs un diwrnod, ac yn parhau hyd at chwe awr.
Dull asesu
- Mae’r cymhwyster yn cael ei asesu wrth i’r dysgwr gwblhau llyfryn gwaith.
- Mae’r model asesiad hwn yn golygu bod angen i ddysgwyr i gynnig ymateb byr i gwestiynau rhagnodedig o fewn llyfryn gwaith a osodir gan Gymwysterau Highfield.
Cynnwys ac amcanion y cwrs
- Bydd cyfranogwyr yn medru deall sut i ddiogelu ac amddiffyn, pobl ifanc ac ymarferwyr yn y gweithle.
- Bydd cyfranogwyr yn gwybod sut i gyflwyno tystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin.