Mae gadael addysg ofodol yn codi ofn ar nifer o bobl, ond mae yna opsiynau gwahanol ar agor i chi pan fyddwch yn cyrraedd 16 mlwydd oed. Felly, beth sy’n digwydd ar ôl blwyddyn 11, a beth yw eich opsiynau yn Sir Fynwy?
- Chweched Dosbarth
- Coleg
- Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth
- Dechrau Gwaith
Chweched Dosbarth
Mae sefydliadau Chweched Dosbarth ledled Sir Fynwy’n cynnig ystod eang o bynciau ar Lefel 3, BTEC Cenedlaethol, Lefel AS ac A a’r Fagloriaeth Gymraeg Uwch. Bydd pob ysgol o fewn Sir Fynwy ag anghenion gwahanol er mwyn cael mynediad i gyrsiau Lefel 3 (neu gyfwerth). Bydd angen yn gyffredinol i fyfyrwyr ennill o leiaf 5 TGAU gyda graddau A* – C neu gyfwerth neu 5 BTEC â graddau Teilyngdod, er bod rhai pynciau AS ac A2 yn gofyn am bynciau a graddau TGAU penodol er mwyn symud ymlaen i’r chweched dosbarth. Bydd prosbectysau ar gael trwy wefan pob ysgol os ddymunwch gael manylion penodol.
Mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cynnig Chweched Dosbarth yn Sir Fynwy:
- Ysgol Cil-y-coed – www.caldicotschool.com
- Ysgol Cas-gwent – www.chepstowschool.net
- Ysgol y Brenin Harri, Y Fenni – www.kinghenryviiischool.co.uk
- Ysgol Gyfun Trefynwy – www.monmouthcomprehensive.org.uk
Coleg
Coleg Gwent – www.coleggwent.ac.uk/cy
Mae Coleg Gwent yn cynnig 32 cwrs Lefel A ac ystod o gyrsiau galwedigaethol dros bum campws. Symudodd myfyrwyr oedd yn astudio yng Ngholeg Gwent yn 2018/19 ymlaen â chyfradd pasio Lefel A o 98.5%. Rhestrir Coleg Gwent fel y coleg sy’n perfformio orau ar y cyd ar gyfer addysg alwedigaethol yng Nghymru.
I’r rheini sy’n byw yn agos at y ffin gyda Lloegr, mae yna nifer o opsiynau Coleg eraill ar gael i chi. I ddarganfod mwy am y colegau hyn a’r cyrsiau maent yn eu cynnig, ymwelwch â’u gwefannau, os gwelwch yn dda:
Coleg Swydd Henffordd a Llwydlo
Coleg Sir Gaerloyw – Campws Cinderford
Gallwch hefyd ddod o hyd i ystod o golegau a darparwyr hyfforddiant ar ein map ar-lein gan glicio yma
Prentisiaethau
Swyddi yw prentisiaethau yng Nghymru sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau swydd penodol. Rydych yn ennill cyflog wrth i chi weithio a dysgu. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a phrentisiaethau cyfredol yn Sir Fynwy ar https://gyrfacymru.llyw.cymru/
Hyfforddeiaethau
Rhaglen ddysgu yw Hyfforddeiaeth sy’n rhoi’r sgiliau i chi sydd eu hangen i gael swydd neu i symud ymlaen i addysg bellach neu brentisiaeth yn y dyfodol.
People Plus – www.peopleplus.co.uk/peopleplus-cymru
Hyfforddiant Torfaen – http://www.torfaentraining.co.uk/hyfforddiant-torfaen
Sgiliau – www.sgiliau.wales
Mae Dysgu yn Seiliedig ar Waith yn cynnig dau lwybr sy’n cynnwys:
Rhaglen Ymgysylltu – 21 awr, £30 fesul wythnos
Hyfforddeiaethau Lefel 1 – 30 awr, £50 fesul wythnos
Bydd hyfforddeiaethau’n amrywio fesul darparwr, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys hyfforddeiaethau mewn Manwerthu, Gweinyddiaeth Fusnes, Gwallt a Harddwch
Mwy o wybodaeth ynglŷn â chamau nesaf a llwybrau yng Nghymru:
Cyflogaeth
Pan ydych yn 16 mlwydd oed, gallwch chwilio am waith, os ydych yn barod. Os ydych yn gwybod yr hyn yr ydych yn dymuno ei gwneud, gallwch geisio am swydd unwaith i chi adael ysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau gwaith ac os ydych yn barod i ddechrau chwilio a cheisio am swyddi, yna cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cynnig Cymorth Cyflogadwyedd i bobl 16-24 mlwydd oed.
#