
Cydlynydd Safle, Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed
Mae Castell Cil-y-coed ar safle 55 erw ac o fewn parc gwledig delfrydol yn Sir Fynwy. Wedi ei sefydlu gan y Normaniaid, a’i ddatblygu gan y teulu brenhinol fel cadarnle yn y Canol Oesoedd, cafodd ei adfer fel cartref teuluol Fictoriannaidd. Mae’r castell, sydd o fewn y parc gwledig â choetir, yn meddu ar hanes rhamantus a lliwgar. Mae ymwelwyr â’r castell yn medru mwynhau’r hanes, cerdded drwy’r gerddi heddychlon a’r llwybrau cerdded o gwmpas y parc a mwynhau lluniaeth yn yr ystafell de. Mae’r castell yn cynnal digwyddiadau amrywiol drwy gydol y tymor ac wedi ei ddefnyddio yn ddiweddar fel lleoliad ar gyfer recordio ffilmiau a dramâu hanesyddol.
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a fydd yn gyfrifol am reoli a datblygu ac
ymfalchïo yn y gwaith o gynnal a chadw Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed.
Byddwch yn arwain tîm o staff a fydd yn gyfrifol am ymddangosiad y safle, yn cynnig
bwyd a diod; y cynigion manwerthu perthnasol a gwybodaeth i dwristiaid; cynnal
gwiriadau dyddiol er mwyn sicrhau bod y safle o safon uchel a bydd eich angerdd yn
ysgogi eraill i garu’r lle prydferth yma gymaint â chi.
Byddwch yn gweithio gyda chymunedau lleol a gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau mynediad i gynifer ag sydd yn bosib a’u bod yn medru cymryd rhan. Bydd angen gweithio ar y penwythnos ac ar ddiwrnodau Gŵyl y Banc yn ystod y tymor gwyliau.
Rydym am sicrhau bod llefydd arbennig fel Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed yma i’w diogelu a’u mwynhau gan bawb am byth. Wedi’r cwbl, bydd eich angerdd a’ch ymroddiad chi yn medru tanio’r dychymyg sydd yn golygu bod yr ymwelydd yn dod yn gefnogwr am weddill ei fywyd.
Mae MonLife yn credu bod pobl yn haeddu mwy na ‘gwasanaeth da’ yn unig, sef profiad anhygoel na fyddant byth yn ei anghofio, ac rydym yn chwilio am bobl sydd â meddylfryd tebyg i ymuno gyda ni – a ydych yn barod?
Cyfeirnod Swydd: ENTATT03
Gradd: BAND G £27,741 - £31,346
Oriau: 37 awr
Lleoliad: Castell Cil-y-coed
Dyddiad Cau: 20/01/2022 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Nid oes angen gwiriad gan y GDG ar gyfer y rôl.