Cydlynydd Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion (GCD)
Rydym yn edrych am arweinydd cryfymroddedig a phrofiadol ar gyfer swydd Cydlynydd GCD i arwain ein tîm o athrawon a staff cymorth brwdfrydig ac ymroddedig. Edrychwn am rywun a all ysbrydoli a chefnogi’r gweithlu ymroddedig tuag at ddyfodol cynaliadwy, mwy disglair o ddarpariaeth ansawdd uchel sy’n rhoi blaenoriaeth i lesiant dysgwyr a’u hymgysylltu mewn profiadau dysgu rhagorol.
Cyfeirnod Swydd: PRS1
Gradd: Graddfa Tâl Arweinyddiaeth L11 – L17 £61,547 - £71,195 y flwyddyn
Oriau: 32.5 yr wythnos yn unol â Thâl ac Amodau Athrawon
Lleoliad: Mae’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion wedi ei seilio ar ddau safle yng Nghas-gwent a’r Fenni ar hyn o bryd. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth symud. Ni fyddir yn talu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.
Dyddiad Cau: 13/09/2024 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Oes (Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)