Skip to Main Content

Maes Chwarae Brynbuga

 

Cyn ac wrth blannu

 

 

Cysylltodd ‘Prosiect Chwarae Brynbuga’, grŵp o bobl oedd yn gynyddol rwystredig gyda’u hen faes chwarae blinedig, gyda ni. Roeddent wedi dynodi’r angen am gyfleuster newydd a gwell. Roeddent eisiau rhywbeth fyddai’n denu plant o bob oedran. Ar adeg pan gawn ein hatgoffa’n barhaus am yr angen i ymarfer, byddai hyn yn rhoi lle diogel i blant redeg o amgylch a chwarae’n rhydd.

Roedd ymdrech fawr i godi arian gan breswylwyr a busnesau. Ni fedrai’r prosiect fod wedi mynd yn ei flaen heb help a chefnogaeth preswylwyr o bob oedran. Mae’r ffaith iddo wneud hynny’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni mewn cymuned gyda chefnogaeth pawb.

Cysylltwyd â Chyngor Sir Fynwy a gofyn iddynt helpu. Fe wnaethom ddefnyddio ein harbenigedd o’r camau ymgynghori dechreuol, gan gydlynu gyda’r gwahanol fuddsoddwyr amser a chyllid, hyd at ddylunio, gosod, rhoi wyneb a thirlunio terfynol y prosiect. Cynhaliwyd digwyddiad agor mawreddog a fynychwyd gan nifer fawr o bobl o bob oed.

Mae’r holl offer meysydd chwarae a ddefnyddiwn yn cyrraedd safon gofynnol BS EN1176 ar gyfer offer meysydd chwarae, a gwnawn yn sicr y caiff ein holl weithwyr eu hyfforddi’n llawn i safon uchel. Islaw mae lluniau o ddechrau’r prosiect hyd at y maes chwarae wedi’i orffen.

Y maes chwarae wedi’i orffen