Skip to Main Content

header

Dysgu a Datblygu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Fynwy

Yng Nghyngor Sir Fynwy rydym eisiau i weithwyr cymdeithasol gael y cyfleoedd cywir i ddysgu a datblygu. Dilynwn Fframwaith Addysg a Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cyngor Gofal Cymru i gefnogi gweithwyr cymdeithasol ar bob cam o’u gyrfa. Cynigiwn raglen hyfforddiant gynhwysfawr, ac mae ein Swyddog Datblygu Staff yn cwrdd gyda holl aelodau newydd y staff wrth iddynt gynefino i’w helpu i gynllunio hyfforddiant fydd yn cefnogi eu rôl a’u galluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau newydd.

Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso

Croesawn weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso, ac mae ein cefnogaeth Blwyddyn Gyntaf mewn Ymarfer yn cynnwys goruchwyliaeth reolaidd, cynllun dysgu a datblygu ac amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant craidd. Mae ein grŵp Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn rhoi cyfle i gwrdd â gweithwyr cymdeithasol eraill newydd gymhwyso, rhannu profiadau, cael gwybodaeth a chefnogaeth a dysgu mwy am y Rhaglen Gyfuno y byddwch yn ei dilyn yn ail flwyddyn eich ymarfer. Helpwn weithwyr cymdeithasol i fynychu’r pedwar cwrs byr y maent eu hangen cyn dechrau eu Rhaglen Gyfuno: Amddiffyn Plant, Diogelu Oedolion, Trais Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau.

Y Rhaglen Gyfuno:

Cefnogwn weithwyr cymdeithasol yn ail flwyddyn eu hymarfer i ymrestru ar y Rhaglen Gyfun ym Mhrifysgol Fetropolitaidd Caerdydd neu Brifysgol De Cymru. Mae angen y Rhaglen ar gyfer ail-gofrestru pob gweithiwr cymdeithasol sy’n cymhwyso o 2016 ymlaen. Caiff ei asesu drwy bortffolio sy’n eich galluogi i ddangos eich gallu i wneud gwaith cynyddol gymhleth. Darparwn gefnogaeth anffurfiol drwy gydol y Rhaglen Gyfuno, ynghyd ag absenoldeb astudio.

Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol

Cefnogwn weithwyr cymdeithasol profiadol i barhau eu dysgu a datblygiad, gan eu helpu i ddynodi lle byddent yn hoffi ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau ymhellach. Ynghyd ag ystod gynhwysfawr o hyfforddiant creiddiol, trefnwn leoedd ar raglenni ôl-gymhwysol gydag achrediad sy’n cynnwys y Rhaglen Ymarferydd Profiadol a’r Rhaglen Uwch Ymarferydd. Rydym hefyd yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol profiadol i ddod yn aseswyr ymarfer ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Darperir absenoldeb astudiaeth ar gyfer rhaglenni ôl-gymhwysol.

Rhaglen Asesu Ymarfer:

Mae’r rhaglen yma’n arwain at gymhwyster mewn asesu ymarfer, a gellir ei gymryd ar lefel gradd neu feistr ym Mhrifysgol De Cymru neu Brifysgol Caerdydd. Fel asesydd ymarfer, cewch hefyd eich gwahodd i fynychu gweithdai rheolaidd a ddarperir gan Swyddog Datblygu Dysgu Ymarfer Cyngor Sir Fynwy. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau ar gyfer y rhaglen, gan ein bod yn trefnu 30 cyfle dysgu ymarfer ar gyfer myfyrwyr gradd gwaith cymdeithasol neu feistr bob blwyddyn.

Rhaglen Ymarferydd Profiadol a Rhaglen Uwch Ymarferydd

Caiff y rhaglenni cenedlaethol dwy flynedd yma ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol ac uwch ymarferwyr eu darparu gan Brifysgol Caerdydd ac maent yn arwain at ddyfarniadau lefel meistr. Gall ymgeiswyr ystyried cymryd modiwlau unigol i adeiladu eu dyfarniad ôl-gymhwysol yn raddol. Bydd y ddolen yn rhoi mwy o wybodaeth.

Safle gwybodeth CPEL

I gael mwy o wybodaeth am hyfforddiant a datblygu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yng Nghyngor Sir Fynwy cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Staff yn 07825 256751.

Footer 2