Skip to Main Content

Diweddarid Pontio Brexit: Allforion

Rhaid sicrhau gwaith papur cywir ar gyfer gwiriadau iechyd anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid ar ffiniau’r Undeb Ewropeaidd

Mae’n rhaid i fasnachwyr sicrhau fod gan gludwyr o’r Deyrnas Unedig y gwaith papur cywir i gydymffurfio gyda gwiriadau newydd ar anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid ar ffiniau’r Undeb Ewropeaidd. Dylai masnachwyr gymryd y camau dilynol i gael y gwaith papur angenrheidiol cyn allforio nwyddau i aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

 
Gwirio os ydych angen Tystysgrif Iechyd Allforio

 
Mae allforion anifeiliaid byw a chynnyrch yn dod o anifeiliaid i’r Undeb Ewropeaidd angen Tystysgrif Iechyd Allforio (EHC) a lofnodwyd gan Filfeddyg Swyddogol (OV) neu Swyddog Ardystio Cymwys Bwyd (FCCO). Mae’n rhaid i’r EHC wreiddiol wedi’i llofnodi deithio gyda’r llwyth.

Gallwch wirio pa EHC sydd ei angen arnoch drwy Form Finder Defra a gwneud cais ar-lein. Mae canllawiau llawn ar broses EHC ar gael ar gov.uk.  Dylech sicrhau eich bod wedi  dod o hyd i OV neu FCCO a all ardystio eich llwyth cyn i chi ddechrau ar y broses gais.

Os na allwch ddod o hyd i EHC, bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdod cymwys yn y wlad yn yr Undeb Ewropeaidd yr ydych yn allforio iddi, ymlaen llaw, i ganfod pa waith papur y byddwch ei angen. Os yw’r awdurdod cymwys yn dweud eich bod angen EHC, bydd angen i chi gael eu hamodau mewnforio. E-bostiwch yr amodau at APHA yn exports@apha.gov.uk fydd yn trefnu EHC ar eich cyfer. 
 
Dod o hyd i’r Safle Rheoli Ffiniau (BCP) cywir ar gyfer eich anghenion 

Mae’n rhaid i’ch anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid gael eu gwirio mewn BCP yr Undeb Ewropeaidd. Mae mwy na 400 BCP yn yr Undeb Ewropeaidd ac maent fel arfer mewn porthladdoedd a meysydd awyr yn yr Undeb Ewropeaidd. Y rhai a ddefnyddir amlaf yw:

BCP yr Almaen 

BCP Ffrainc 
BCP Gwlad Belg 
BCP yr Iseldiroedd 
BCP Portiwgal 
BCP Sbaen

Dyma restr lawn o BCP yr Undeb Ewropeaidd
 
Gellir gwrthod mynediad, atafaelu, dinistrio neu ddychwelyd eich nwyddau i Brydain Fawr os ydynt yn cyrraedd:

  • porthladd yn yr Undeb Ewropeaidd heb BCP neu lle na fedrir cynnal gwiriadau
  • BCP yn yr Undeb Ewropeaidd na all wirio eich math o anifail
  • BCP yn yr Undeb Ewropeaidd heb y dogfennau cywir

Rhoi hysbysiad ymlaen llaw i Safle Rheoli Ffiniau yr Undeb Ewropeaidd (rhaghysbysiad)

 
Bydd angen i chi roi hysbysiad ymlaen llawi BCP yr Undeb Ewropeaidd am nwyddau’n cyrraedd (rhaghysbysiad). Gwiriwch faint o hysbysiad ymlaen llaw sydd ei angen gyda’r BCP y bwriadwch ei ddefnyddio.

 
Cysylltwch â’ch asiant mewnforio yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud yn siŵr eu bod yn hysbysu’r BCP drwy’r System Rheoli Masnach ac Arbenigol (TRACES) am gyrhaeddiad eich llwyth. Mae’n rhaid iddynt wneud hynny o fewn y terfynau amser a nodir gan y BCP neu’r pwynt mynediad.

 
Cydymffurfio gyda gofynion tollau newydd 
 
Cydymffurfiwch gyda chanllawiau ehangach y HMRC ar ofynion tollau ar gyfer allforio i’r Undeb Ewropeaidd, dilyn canllawiau HMRC ar symud nwyddau o Brydain Fawr a dilyn rheolau ar ddynodi anifeiliaid, os ydych eisiau eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd.

 
Adnoddau defnyddiol: 
 
Gweminarau i fasnachwyr 
 
Edrychwch ar weminarau ar gyfer allforwyr anifeiliaid a chynnyrch yn dod o anifeiliaid i’r Undeb Ewropeaidd. Dilynwch y dolenni islaw ar gyfer:

Canllawiau yr Undeb Ewropeaidd 
 
Canllawiau: Mesurau rheoli iechydol a ffytosanidol ar nwyddau a fewnforiwyd o’r Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd gan fynd i mewn drwy Ffrainc – Gweinyddiaeth Amaethyddiaeth a Bwyd Ffrainc  

Llinellau Cymorth Defra 
 
Dewiswch y llinell gymorth fwyaf addas ar gyfer y nwyddau yr ydych yn eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd yn  https://www.gov.uk/guidance/contact-defra  

Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE

Mae dinasyddion o du allan i’r DU yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n system iechyd a gofal cymdeithasol. Ni allem ddarparu gwasanaethau heb gyflogi pobl o Ewrop a ledled y byd, ac mae cyfraniadau ein holl staff wedi bod yn gliriach nag erioed eleni.

Atgoffir staff o wledydd yr UE sy’n dymuno aros a gweithio yng Nghymru i wneud cais am Gynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE y DU.  Mae’r cynllun ar agor tan 30 Mehefin 2021 ac argymhellir yn gryf y dylid gwneud cais yn gynnar.  Gall pobl wneud cais ar-lein: www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families.

Byddem yn eich annog i hyrwyddo’r cynllun i’r rhai yn eich timau yr effeithir arnynt ac y mae angen iddynt wneud cais.

Gall pobl ag achosion cymhleth gael cyngor mewnfudo arbenigol am ddim drwy gwmni Newfields Law. Dysgwch fwy yma: www.eusswales.com.

Gwybodaeth ychwanegol

Am fwy o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/paratoi-cymru neu i dudalen Cwestiynau Cyffredin Brexit Conffederasiwn GIG Cymru www.nhsconfed.org/resources/2019/02/managing-eu-withdrawal-in-health-and-social-care-in-wales-faqs

Islaw mae rhestr o adnoddau a chyngor i helpu busnesau yn ystod cyfnod Pontio’r Undeb Ewropeaidd

Paratoi am 2021

Diwedd Cyfnod Pontio’r UE

Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020

Gwybodaeth Bwyd a Diod Cymru

Rydych yn gyfrifol am wirio a gweithredu ar wybodaeth berthnasol ond rydym eisiau eich cefnogi drwy eich cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth a chanllawiau defnyddiol.

Beth fedrwch chi ei wneud yn awr i baratoi ar gyfer masnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd o 1 Ionawr 2021?

Cael rhif GB EORI

Byddwch angen rhif EORI i lenwi datganiadau tollau. Gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i www.gov.uk/eori

Penderfynu sut y byddwch yn gwneud datganiadau tollau

Gall asiantau tollau, danfonwyr nwyddau a gweithredwyr cyflym eich helpu gyda datganiadau a sicrhau eich bod yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy glicio yma 

Gweld os yw y nwyddau yr ydych wedi eu mewnforio yn gymwys am fesurau rheoli mewn camau

Gall y rhan fwyaf o fasnachwyr gyda chofnod cydymffurfiaeth dda ohirio datganiadau mewnforio ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau am hyd at 6 mis ar ôl 1 Ionawr 2021. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma

Os ydych yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallwch lofnodi i ddefnyddio Gwasanaeth Cefnogi Masnachwyr (TSS) am ddim

Eich cefnogi

Edrychwch ar dudalen gwefan arbennig ‘Paratoi eich busnes bwyd a diod ar gyfer 1 Ionawr 2021’ ar Gov.UK, lle gallwch weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar pontio mewn un lle.

Yn y cyfnod hwn o bwysau cynyddol ar y gadwyn cyflenwi bwyd, mae Arloesedd Bwyd Cymru wedi agor llinellau cymorth rhanbarthol

Ystyriwch ymuno â Grŵp Clwstwr Llywodraeth Cymru

Mwy o wybodaeth am labeli bwyd

Darllen mwy o gyngor gan HMRC ar gamau gweithredwn y gallwch yn awr eu cymryd i baratoi eich busnes

Gadawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. Mae bellach gyfnod trosiant tan ddiwedd 2020 tra bydd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn negodi trefniadau ychwanegol.

Bydd y rheolau presennol ar fasnach, teithio a busnes ar gyfer y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau mewn grym yn ystod y cyfnod trosiant a daw’r rheolau newydd i rym ar 1 Ionawr 2021.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill ledled Cymru i roi cynlluniau ar waith i sicrhau fod ein gwasanaethau yn rhedeg yn llyfn.

Er mwyn paratoi cofrestrwch os gwelwch yn dda i gael yr wybodaeth ddiwethaf am unrhyw drefniadau ychwanegol drwy e-bost er mwyn paratoi ar gyfer y rheolau newydd yn 2021. Ewch ihttps://www.gov.uk/transition-check