Skip to Main Content

Pethau pwysig i’w cofio wrth ddefnyddio eich bathodyn glas 

  • Rhaid i’ch Bathodyn Glas gael ei ddangos ar dop y bwrdd dangos neu banel ffasgia y cerbyd lle gellir ei ddarllen yn glir.  
  • Dylid defnyddio’r cloc parcio bob amser pan fo terfyn ar faint o amser y gallwch barcio mewn lleoliad. Mae bob amser yn arfer da i ddangos y cloc os ydych yn ansicr os oes angen i chi wneud hynny ai peidio. 
  • Mae’n rhaid i’r ochr sy’n dangos y symbol cadair olwyn fod ar y tu blaen fel y gellir darllen y dyddiad dod i ben o’r tu allan i’r cerbyd ac mae’n rhaid gosod yr amser cyrraedd ar y cloc.  
  • Gallwch gael tocyn parcio os nad ydych yn dangos y bathodyn yn iawn.  
  • Pan na ddefnyddir consesiynau parcio, dylid symud bathodynnau/clociau/waledau o’r golwg fel nad ydynt yn darged ar gyfer lladron. 
  • Os oes swyddog gorfodaeth parcio yn gofyn i chi ddangos bathodyn iddynt, mae’n ofyniad cyfreithiol i chi wneud hynny. Os na wnewch hynny, gallwch gael eich erlyn a chael dirwy hyd at £1,000. 

 Bydd gan bob deiliad bathodyn lyfryn Hawliau a Chyfrifoldebau sy’n esbonio’r Cynllun Bathodyn Glas.

Dylid dychwelyd pob bathodyn a ddaeth i ben i’ch Hyb Cymunedol neu ei bostio at y Ganolfan Gyswllt 

 Deiliaid Bathodynnau Glas a fu farw 

 Os yw’r deiliad bathodyn glas yn marw, gofynnir i chi ddychwelyd y Bathodyn Glas i’ch Hyb Cymunedol , ei phostio at y Ganolfan Cyswllt  neu ei roi i Gofrestryddion yn defnyddio gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith