Skip to Main Content

Os ydych yn ailymgeisio, argymhellir eich bod yn gwneud hynny tua 8 wythnos cyn fod eich bathodyn cyfredol i ddod i ben.

Ni fyddwn yn cyhoeddi llythyrau atgoffa o hyn ymlaen oherwydd newid mewn systemau.

Os yw’ch ail gais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn eich bathodyn glas newydd tua 10-14 diwrnod cyn i’ch bathodyn presennol ddod i ben.

Byddwch angen y dilynol i ailymgeisio am Fathodyn Glas:

  • Manylion eich Bathodyn Glas presennol.
  • Llun lliw digidol diweddar neu lun maint pasbort wedi ei lofnodi. Dylai’r ffotograff ddangos wyneb ac ysgwyddau llawn yr ymgeisydd fel ei bod yn rhwydd adnabod y deiliad bathodyn.
  • Rhif Yswiriant Gwladol.
  • Tystiolaeth o adnabyddiaeth (e.e. pasbort/ tystysgrif geni/mabwysiadu, trwydded yrru ddilys, tystysgrif partneriaeth/diddymu neu dystysgrif priodas/ysgaru)
  • Tystiolaeth o gyfeiriad (e.e. Bil Treth Gyngor neu gallwch roi caniatâd i’r awdurdod lleol i wirio’r gronfa ddata Treth Gyngor neu Gofrestr Etholiadol )
  • Os ydych yn llenwi cais ar ran rhywun dan 16 oed, gallwch roi caniatâd i’r awdurdod lleol wirio cofnodion ysgol i gadarnhau eu cyfeiriad.
  • Prawf o gymhwyster os ydych yn gwneud cais dan y meini prawf awtomatig.

Gallwch wneud cais ar-lein yn www.gov.uk neu ofyn i Gyngor Sir Fynwy am ffurflen gais.

Os gwnewch gais ar-lein, gallwch olrhain eich cais a diweddaru eich manylion neu gallwch ofyn am ffurflen gais gan unrhyw un o’r dilynol:

Ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01633 644644

Drwy e-bost: contact@monmouthshire.gov.uk

Drwy ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol