Skip to Main Content

Bathodynnau Glas a gafodd eu Dwyn 

Os cafodd eich Bathodyn Glas ei ddwyn, bydd angen i chi hysbysu’r Heddlu a byddant yn rhoi rhif cyfeirnod trosedd i chi. Byddwch angen hyn i wneud cais am amnewid bathodyn glas. 

Bathodynnau Glas a gafodd eu Colli neu eu Difrodi 

Os cafodd eich bathodyn ei golli neu ei ddifrodi, bydd angen i chi lenwi ffurflen am amnewid bathodyn glas. Codir ffi o £10 am amnewid bathodynnau glas. 

Nodwch fod angen i chi gofrestru ar Fy Sir Fynwy i gwblhau’r ffurflen ar-lein. Dysgwch fwy am Fy Sir Fynwy yma.